Mae John Owen yn awr yn cynhyrchu golosg o ansawdd uchel yn lleol ar safleoedd a ddarparwyd gan Goedydd Derw Meirionnydd ar ôl mynychu un o’r cyrsiau di-dâl a gynigir gan y prosiect.
Neu gallwchgysylltu â tîm y prosiect drwy gyfrwng y wefan hon a byddwn yn anfon eich manylion ymlaen i John ac Ann.
Cofiwch – prynwch golosg gan eich cyflenwr lleol!
Wrth sôn am golosg lleol rydym yn golygu golosg a wnaed gan ddefnyddio coed pren caled brodorol wedi’u rheoli mewn ffordd gynaliadwy, ac a gynhyrchwyd yn lleol ar raddfa fach gan grefftwyr lleol medrus.
Golosg Bodfari: Dyma un o’r cynhyrchwyr golosg mwyaf yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnal cyrsiau gwneud golosg. Hoffem ddiolch i Rod Waterfield am ddod draw i ddangos i Goedydd Derw Meirionnydd sut i wneud golosg. Gellir cael rhagor o fanylion am Golosg Bodfari ar ein Cronfa Ddata o Gontractwyr drwy chwilio dan “gwneuthurwyr golosg”.
i Eric Anderson yn www.localcharcoal.co.uk am ganiatáu i ni ddefnyddio’r testun a’r lluniau o’i wefan ar gyfer
"5 cam hawdd i wneud golosg gan ddefnyddio odyn”
a "Sut y gwneir Golosg?".
Ewch i www.localcharcoal.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am golosg.




