Cymerwch olwg ar y rhestr o wahanol ddigwyddiadau oddifewn ardal Meirionnydd

Cliciwch yma I gael neges-destyn ynglyn a'r digwyddiadau diweddaraf yn y prosiect

Cymuned a Threftadaeth

Yn ymestyn o ddyffryndir Ffestiniog i lawr tuag at Gorris, mae Meirionnydd yn gartref i rai o'r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Nghymru, gyda'r hen sir bron i gyd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae pobl wedi bod yn byw ym Meirionnydd ers cyn y cyfnod Neolithig. Gwelodd yr oes Neolithig-efydd (tua.4000CC-tua.3000CC) ddatblygu technegau ffermio ac amaethu sylfaenol, ac roedd pren yn adnodd gwerthfawr a defnyddiol ar gyfer tanwydd, adeiladu, ac offer, ac yn chwarae rhan fawr ym mywyd pob dydd.

Erbyn yr Oes Haearn (tua.1000CC) roedd llwyth yr Ordofigiaid yn byw ym Meirionnydd, ac yn ddiweddarach erbyn yr oes Geltaidd, roedd Cymru'n datblygu ei hiaith a'i hunaniaeth ei hun. Mae'r Gymraeg ymysg un o'r ieithoedd hynaf yn Ewrop. Er bod Cymru wedi gweld llawer goresgyniad yn ei hanes, ystyrir gogledd orllewin Cymru yn gadarnle iaith a thraddodiadau'r wlad.

Heddiw, mae Meirionnydd yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf, â'r holl drafodion o ddydd i ddydd yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae mesurau yn eu lle i ddiogelu'r iaith ac i hyrwyddo'i defnydd, mae'r holl ysgolion yn yr ardal yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r holl gyrff cyhoeddus a mwyafrif y cyrff preifat yn darparu gwasanaeth dwyieithog.

Bu perthynas bwysig iawn erioed rhwng pobl Meirionnydd â'r tir a'r tirlun, o ddatblygiad parhaus amaethyddiaeth a choedwigaeth, i'r chwareli llechi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae safleoedd y coedwigoedd derw yn llawn cliwiau sy'n dangos sut y datblygodd ein perthynas â'r coed derw a'r tir. Mae'r rhain yn amrywio o hen ffermydd, pyllau, odynau calch a'r gweithfeydd pwdlo - mae'r hen adeiladau a'r pyllau hyn yn fannau perffaith ar gyfer ystlumod, mwsogl, rhedyn a chen, sy'n cyfrannu at fioamrywiaeth coedwigoedd derw Meirionnydd. Mae'n amlwg o hanes y coetiroedd bod pobl wedi bod yn eu rheoli'n barhaus, pa un ai'n gadarnhaol neu'n niweidiol. Mae'r coedwigoedd hyn wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad economaidd yr ardal, ac yn parhau i wneud hynny heddiw.

Glasdir Glasdir yw’r lle gorau yn y byd… Darparir gartref yma i blanhigion anhygoel na cheir mo’i tebyg unman arall yn y byd! Gelwir y planhigion yma yn bryoffytau, a hwy oedd rhai o’r planhigion cyntaf i ddatblygu ar ol yr oes ia ddwythaf 14,000 mlynedd yn ol! –ac maen’t yma heddiw. Mae’r Coed derw, ceunentydd dyfn a’r afon yn rhythro lawr y cwm yn creu cynefin perffaith i’r planhigion anhygoel yma.

mae’r safle yma yn y canol rhwng dau ddarn o goedlan dderw. Tair mlynedd yn ol cwympwyd y Coed conwydd a oedd yn tyfu yma a gadawyd y safle yn barod i’w ddatblygu fel coedlan gymunedol i bawb. Bydd uno’r ddau ddarn derw yma yn cynyddu’r cynefin ac yn galluogi rhywogaethau prin i enill tir newydd felly yn helpu gwarchod ei dyfodol.
Workers on hill
Two girls planting mae prosiect rheoil cynefin coedydd derw Meirionnydd wedi mabwysiadu’r safle ag ers 2004 mae’r gymuned leol wedi dechrau ar y gwaith trawsnewid o ddarn tir gwag yn ol i fewn i goedlan dderw llawn bywyd. Ydychi am gymeryd rhan? Rhowch alwad i dim y prosiect ar 0845 604 0845 neu gyrrwch e-bost

Pam na ddewch i gael tro ar,
  • Blannu Coed
  • Clirio gwarstraff a malurion
  • Walio cerrig
  • Colbio rhodoendrons
  • Gwehyddu helyg
Dewch mewn cysylltiad am ragor o wybodaeth!
Walling
Un o'r rhesymau pennaf pam y mae'r coedwigoedd derw wedi goroesi mor hir ym Meirionnydd yw cryfder a gwydnwch derw fel deunydd a'i werth i bobl. Rheolwyd y coedwigoedd fel rhan o'r amaethu, ynghyd â da byw fel gwartheg, geifr a moch hyd yr 17 ganrif; yn wir, defnyddiwyd y fesen, neu'r "cnwd o fes" o'r coed i dewhau'r moch ac roedd yn ffynhonnell werthfawr o fwyd i'r da byw. Roedd gan dderw hefyd ran bwysig yn niwydiant lledr yr ardal, a defnyddiwyd y rhisgl o'r coed ar gyfer y prosesau trin lledr, oherwydd ei lefel uchel o asid tannig. Roedd pren o goedwigoedd derw Meirionnydd yn chwarae rhan bwysig yn y diwydiant adeiladu llongau ym Mhorthmadog, a gludai'r llechi o chwareli Blaenau Ffestiniog ledled y byd.

Pan edrychwn ar hanes a threftadaeth y coedwigoedd derw hyn, ni allwn ddiystyru'r rôl a chwaraewyd gan ystadau mawr Meirionnydd. Roedd ystâd Oakley, a leolir yn rhannau gogleddol y coedwigoedd derw, yn rhan o'r tiroedd a oedd yn eiddo i deulu'r Oakley. Roedd y teulu'n ymwneud â chynnal llawer o'r pyllau ym Meirionnydd, a chawsant effaith fawr ar ddatblygiad yr ardal, gan gynnwys adeiladu ffordd newydd rhwng Harlech a Maentwrog, a chodi eglwys newydd ym Maentwrog.

Chwareli Meirionnydd.

Mae ystâd fawreddog y Nannau yn rhan fawr o'r hyn a elwir heddiw'n Goed y Brenin. Fe'i sefydlwyd ym 1100 gan Cadwgan, tywysog Powys, ac fe'i prynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ym 1922.

Ar yr hen ystadau hyn y mae rhai o'r enghreifftiau hynaf o goed derw, ond maent hefyd yn cyflwyno problem enfawr. Yn y 19eg ganrif, roedd casglu rhywogaethau o blanhigion prin ac egsotig a'u tyfu ar dir yr ystadau yn ffasiynol iawn, ac un o'r planhigion hynny oedd y Rhododendron. Mae'r Rhododendron ponticum yn rhywogaeth sy'n bla mawr heddiw, yn mygu tyfiant isaf y coedwigoedd derw, ac yn rhwystro aildyfu. Mae'r planhigion mewnlifol hyn, â'u blodau pinc llachar yn nodwedd nodedig o dirlun Meirionnydd. Mae rhai pobl yn eu hoffi oherwydd eu blodau pinc prydferth, ac mae eraill yn eu casáu ac yn eu gweld yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth yr ardal. (Rhywogaethau mewnlifol).

Heddiw, gwerthfawrogir y coedwigoedd derw am eu gwerth fel mwynder yn ogystal ag am eu pren, gyda derw yn hawlio pris uchel ar y farchnad goed o hyd. Mae'r coedwigoedd derw yn adnodd pwysig ar gyfer y gymuned, yn darparu cyflogaeth, cyfleuster addysg a hamdden ar gyfer y gymuned leol ac yn hybu twristiaeth yn yr ardal.
botwm yn cysylltu i tudalen gartref botwm yn cysylltu i Coedwig Law Dymherus botwm yn cysylltu i Coedwigoedd Derw. botwm yn cysylltu i nodiadau rheolaeth. botwm yn cysylltu i Rhywogaethau. botwm yn cysylltu i Gynnydd. botwm yn cysylltu i oriel. botwm yn cysylltu i Partneriaid. botwm yn cysylltu i Cymuned a Threftadaeth. botwm yn cysylltu i Ymhle I Weld botwm yn cysylltu i Digwyddiadau gwefan wedi'w gynllunio, ei gynhyrchu a'i gynnal gan alanarnott.net

Cymuned a Threftadaeth