Mae llygod daear yn greaduriaid bach, bach, sy’n cael eu camgymryd yn aml am fabanod y wiwer, ac maent yn treulio hyd at dri chwarter eu bywyd yn cysgu! Maent yn gaeafgysgu pan fo bwyd yn brin. Mae llygod daear yn brin iawn yng ngwledydd Prydain, ac rydym yn ffodus iawn bod yng nghoedwigoedd derw Meirionnydd, safle nythu mawr â llawer o lygod daear. Mae’n well gan lygod daear fyw mewn coetir collddail, wedi’i coedlannu ac mewn gwrychoedd - mae hyn yn cydweddu’n berffaith â’r coedwigoedd derw, ac rydym yn bwriadu gwneud llawer o waith i helpu amddiffyn y llygod daear. Edrychwch yn y dyfodol am luniau a fideos o’r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud, gan gynnwys adeiladu blychau nythu newydd ac edrych i weld a oes unrhyw lygod daear yn byw yn ein blychau! Os oes arnoch eisiau cael gwybod mwy am Lygod Ddaear, edrychwch ar dudalennau’r rhywogaethau!
Mae Moch daear yn anifeiliaid cymdeithasol iawn, ac mae tua 12 ohonynt yn byw mewn grwpiau teulu mewn tyllau tanddaear a elwir yn ‘Daear’ neu ‘Setiau’. Caiff Moch daear eu diogelu gan y gyfraith ac mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn wrth weithio’n agos i ddaear Mochyn daear. Mae Moch Daear yn geni cenawon rhwng mis Rhagfyr a mis Mehefin, ac felly mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio â tharfu ar y moch daear a’u cenawon, ac osgoi gweithio mewn mannau lle y gwyddom fod setiau, yn ystod y cyfnod hwn. Am fwy o wybodaeth am foch daear edrychwch ar dudalennau’r rhywogaethau! edrychwch ar dudalennau’r rhywogaethau!
Gall dwrgwn fyw mewn dwr ffres a heli, ac felly rydych yn debygol o’u gweld ar lan y môr ac ar lannau’r afon. Mae llawer o safleoedd y coedwigoedd derw yn dilyn afonydd o’r mynyddoedd; mae hyn yn creu cynefin perffaith ar gyfer dwrgwn, a gobeithiwn eu hannog i aros yn ardal y coed derw. Mae dwrgwn yn perthyn i’r un teulu â’r wenci, ond nhw yw’r unig aelodau o’r teulu a all nofio o dan y dwr. I’w helpu i nofio o dan y dwr, mae ganddynt fysedd traed gweog a chynffon pwerus y maent yn ei ddefnyddio fel llyw llong. Gall dwrgwn hefyd gau eu clustiau a’u ffroenau dan y dwr, ac maent yn cadw’n gynnes ac yn sych am fod ganddynt ddwy haen drwchus o ffwr, rhywbeth tebyg i ni’n gwisgo siaced gnu a chot law! Os oes arnoch eisiau cael gwybod mwy am Ddwrgwn edrychwch ar dudalennau’r rhywogaethau) edrychwch ar dudalennau’r rhywogaethau
Mae coedwigoedd derw Meirionnydd yn gartref i gannoedd o ystlumod. Mae llawer o’r hen goedwigoedd derw mewn ardaloedd anghysbell lle ceir hen adeiladau fferm, ogofâu a hen siafftiau cloddfa, sy’n gynefin perffaith i ystlumod. Yr ystlum clustiog brown yw ail ystlum mwyaf cyffredin gwledydd Prydain, â’r ystlum pippistrelle bychan yw’r ystlum mwyaf cyffredin ym Mhrydain. A glywoch chi erioed yr idiom Saesneg “as blind as a bat?” wel, nid yw’n wir! Mae ystlumod yn anifeiliaid y nos ac yn hela drwy ddefnyddio sonar, gan adlamu signalau oddi ar wrthrychau yn eu llwybr hedfan a dod o hyd i’w hysglyfaethau. Mae llawer o ystlumod yn disgyn ar wyfynod, lindys a phry cop, gan eu cipio o’r awyr neu oddi ar eu cangen. Am grynodeb o’r holl wahanol rywogaethau o ystlumod sydd yng nghoedwigoedd derw Meirionnydd, ewch i dudalennau’r rhywogaethau ewch i dudalennau’r rhywogaethau.
Y llwynog yw’r cigysydd mwyaf eang ei ddosbarthiad yn y byd, ac mae coedwigoedd derw Meirionnydd yn gartref i lawer yeulu o lwynogod. Maent yn helwyr llwyddiannus iawn, er nad ydynt bob amser yn boblogaidd ymysg ffermwyr a chiperiaid. Bydd y llwynog yn bwyta llawer o gnofilod bach a chwningod ac weithiau bydd yn cipio helgig a da byw llai o fferm, sy’n un o’r rhesymau dros ei amhoblogrwydd. Un o’r rhesymau pam y mae’r llwynog wedi dod yn heliwr mor llwyddiannus yw ei glyw main; gall lwynog ar ei lawn dwf glywed llygoden yn gwichian 100 metr i ffwrdd! Caiff y llwynog yr enw am fod yn anifail cyfrwys iawn, gyda llawer o hen idiomau yn defnyddio’r llwynog i ddisgrifio ymddygiad rhywun, e.e. ‘cyfrwys fel cadno’ i ddisgrifio rhywun yn bod yn gyfrwys neu’n gyfrinachol.
Mae draenogod yn anifeiliaid gwych i’w cael mewn coetir, er ein bod yn llawer mwy tebygol o’u gweld yn dod i’r ardd gefn am eu bod yn hoffi bwyta malwod duon!! Mae’r anifeiliaid bach swil hyn yn rhan bwysig o rywogaethau anifeiliad y coedwigoedd derw. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod bod draenogod yn bigau i gyd, a’u bod yn troi eu hunain yn bêl pan deimlant yn ofnus neu dan fygythiad, ond a wyddech chi fod draenogod yn cael eu geni’n hollol foel? Mae pigau draenog yn datblygu dros amser, a gall draenog yn ei lawn dwf fod wedi’i orchuddio gan hyd at 6000 o bigau! Daw rhai newydd yn eu lle dros gyfnod o 18 mis. Mae draenogod yn anifeiliaid y nos, yn cysgu drwy’r dydd mewn nythod a wnaed o ddail sych a glaswellt. Yn yr hydref maent yn adeiladu nythod mwy trwchus ac yn gaeafgysgu. Maent yn gwneud eu nythod fel arfer mewn gwrychoedd ac mewn gorchudd trwchus o blanhigion eraill.
Mae Coed y Brenin yn gartref i ddau fath o garw, yr Iwrch, a Hyddod Brith. Nid yw’r ceirw wedi cyrraedd holl safleoedd y coedwigoedd derw, am y cânt eu cadw mewn ardaloedd penodol yn y goedwig; mae hyn yn ein helpu yn ein gwaith o ddiogelu’r coedwigoedd derw am fod y ceirw yn bwyta’r blagur oddi ar goed derw ifanc.
Os gwelwch chi Iwrch neu Hydd Brith, rydych yn ffodus iawn am eu bod yn anifeiliaid swil tros ben ac mae ganddynt synnwyr arogleuo gwych; os clywant eich arogl ar y gwynt, byddant wedi dianc cyn eich bod hyd yn oed wedi sylweddoli eu bod yn agos. Mae gwryw’r Hydd Brith yn tyfu cyrn mawr ac yn eu cadw drwy gydol eu hoes, ond mae gwryw’r Iwrch yn tyfu rhai newydd pob blwyddyn.
Yr Iwrch neu’r Ewig, a’r Carw coch, yw’r unig geirw sy’n wirioneddol gynhenid i Brydain. Roedd yr Hydd brith yn arfer bod yn gynhenid, ond diflannodd ar ôl yr oes iâ ddiwethaf. Mae tua hanner miliwn o Iwrch ym Mhrydain, a chredir bod “Bambi” yn seiliedig ar elain hydd brith.
Mae’r gwybedog brith yn ymweld â choedwigoedd derw Meirionnydd yn yr haf. Aderyn swil yw aderyn hwn a’i gorff du trawiadol a’i fron wen lachar, a byddwch yn ffodus i’w weld. Mae gwaith y prosiect wedi cynnwys adeiladu blychau nythu ar gyfer yr adar anhygoel hyn. Dewch yn ôl at y wefan i weld lluniau o’r gwaith yr ydym wedi ei wneud a’r blychau nythu yr ydym wedi eu hedrych i weld a oes unrhyw Wybedwyr brith yn byw yn y tai haf a godwyd yn bwrpasol ar eu cyfer yng nghoedwigoedd derw Meirionnydd!
Mae sgrech y coed yn rhan o deulu’r frân, ac yn cael ei alw weithiau’n ‘fran lliwgar’; mae gan yr aderyn bach hwn berthynas arbennig iawn â’r coetiroedd derw. Ym misoedd yr hydref a’r gaeaf, gellir gweld sgrech y coed yn neidio o amgylch llawr y goedwig yn casglu mes i’w bwyta, ond fel gwiwerod, maent hefyd yn claddu llawer o fes i’w bwyta’n ddiweddarach yn y flwyddyn. Gall yr adar bach hyn gasglu a chladdu tua 3,000 o fes bob mis! Er eu bod yn gallu cofio ymhle roedd y rhan fwyaf wedi eu cuddio, mae rhai o’r mes yn egino ac yn dechrau tyfu. Trwy wneud hyn, mae Sgrech y coed yn helpu dosbarthu mes yn eang, ac mae’n ffrind da i’r prosiect.
25 mlynedd yn ôl roedd yr aderyn hwn bron â bod wedi diflannu’n gyfan gwbl o Gymru. Yn y 1930au roedd eu niferoedd wedi disgyn i un iâr fagu. 15 mlynedd yn ôl, ni fyddech ond yn eu gweld yng nghanolbarth Cymru ac ar y ffin, ond bellach gellir gweld yr adar mawreddog hyn mor bell i’r Gogledd â Choed y Brenin a’r coedwigoedd derw deheuol o amgylch Corris. Mae’r barcud coch yn aderyn sborion, a golyga hyn nad yw’n debygol o hela ar ei ran ei hun, ond yn hytrach mae’n well ganddynt fwyta sborion anifeiliaid eraill neu anifeiliaid marw eraill.
Y Boda yw’r mwyaf cyffredin o’r adar mawr y byddwch yn eu gweld yn ardal y coedwigoedd derw. Os ydych yn ucheldiroedd Meirionnydd, mae’n debyg iawn y gwelwch un o’r adar hyn yn ehedu uwch eich pen neu yn eistedd ar bostyn ffens. Mae’r boda’n ehedu yn yr awyr yn chwilio am ysglyfaeth, gan fwyta cwningod a mamaliaid bach yn bennaf gan gynnwys cnofilod, adar bach, pryfetach a brogaod, ond yn wahanol i’r barcud, nid yw’r aderyn hwn yn bwyta sborion.
Dyma aderyn y bydd pawb yn ei adnabod ar unwaith. Mae’r robin â’i fron goch yn aderyn poblogaidd iawn ym Mhrydain ac mae’n ymwelydd cyson â’r coedwigoedd derw. Mae gan rai pobl robin sy’n ymweld â’u gardd yn rheolaidd, ac nid yw’n anghyffredin i robin aros gyda chi drwy’r dydd pan fyddwch allan mewn un rhan o’r goedwig. Nid yw hyn oherwydd ei fod yn ein gweld fel ffrindiau, yn wir y gwrthwyneb sy’n wir! Mae’r robin yn aderyn tiriogaethol iawn, ac os ewch chi i mewn i’w diriogaeth wrth i chi fynd am dro yn y goedwig, bydd yn eich dilyn, gan ddod yn agos iawn weithiau, gan eich gwylio a’ch rhybuddio eich bod yn ei diriogaeth ef. Yr un yw ei arfer o amddiffyn ei diriogaeth pan mae’n ymweld â’ch gardd; nid yw’r robin yn ei hystyried yn ardd i chi, ond yn hytrach fel ei diriogaeth ef, ac mai chi sy’n tresbasu!!
Mae llawer o’n coedwigoedd derw yn dilyn cwrs afonydd, ac mae hyn yn denu llawer o anifeiliaid i fanteisio ar y cyflenwad o ddwr, ond yn enwedig, mae adar bach o’r enw Trochwyr yn ymweld â’n coedwigoedd derw. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae’r adar bach hyn yn mwynhau trochi yn y dwr, ac yn wir gellir gweld yr adar hyn ar lannau afonydd, yn siglo i fyny ac i lawr ar garreg cyn plymio i’r dwr i chwilio am infertebratau dyfrol y maent yn eu bwyta.
O’r holl rwyogaethau Prydeinig o gnocelli, rydych yn fwyaf tebygol o weld y cymeriad hwn yn y coedwigoedd derw, neu efallai dylwn ddweud o glywed yr aderyn hwn. Os ydych yn cerdded yn un o’r coedwigoedd derw ac yn clywed tap-tap-tapio ar goeden, arhoswch ac edrychwch o’ch cwmpas. Mae’n debygol eich bod yn cerdded yn nhiriogaeth cnocell, ac mae tap-tap-tapio yn gloch larwm, yn cyhoeddi i adar eraill eich bod wedi cyrraedd ac yn rhoi gwybod i chi eich bod yn ei diriogaeth ef!
Yn ystod y dydd, mae’r coedwigoedd derw yn gyforiog o wahanol adar a bywyd gwyllt, ond yn y nos mae pethau’n newid. Mae llawer o anifeiliad y nos neu anifeiliaid nosol yn byw yn y coetiroedd, fel ystlumod, moch daear a dwrgwn, ond nid yw’r un o’r rhain mor fawreddog â theulu’r Dylluan.
Mae’r coedwigoedd derw yn gartref i’r Dylluan Wen a’r Dylluan Frech neu Fraith. Fel arfer, mae’r adar hyn yn nythu mewn coed gwag, ac yn defnyddio’r coedwigoedd derw yn fannau i hela cnofilod bach neu bryfed. Os craffwch ar lawr y goedwig, efallai y gwelwch belenni tylluan. Efallai y byddwch yn gwingo wrth eu gweld, ond mae’r dylluan yn cyfogi’r pelenni hyn ar ôl iddi fwyta ei hysglyfaeth ac maent yn cynnwys esgyrn, ffwr ac unrhyw beth arall na all y dylluan ei dreulio. Ar ôl tri…ych a fi!
Mae llawer o wahanol chwedlau yn gysylltiedig â’r aderyn hwn. Yng Ngogledd-orllewin Cymru, credir mai’r hyn yr ydych yn ei wneud pan glywch gân y gog am y tro cyntaf yn y gwanwyn, y byddwch yn ei wneud am weddill y flwyddyn, ac felly gofalwch eich bod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil! Mae hen gred arall yn dweud os oes gennych arian yn eich poced pan glywch gog gyntaf y flwyddyn, byddwch yn gyfoethog am y flwyddyn nesaf!



