Dilynwch y cysylltiadau am ragor o wybodaeth ynglyn a
Anifeiliaid sy’n byw yn y coed
neu am
cwisiau a gemau
neu
edrychwch os yw’ch Ysgol chi yma.

Edrychwch allan am bethau y gellwch lawr-lwytho nue printio, fel rhestrau o bethau y gallech ei weld yng nghefn gwlad

Bydd rhagor o bethau newydd yn cael ei rhoi ar y dydalen yma drwy oes y prosiect, cysylltiadau newydd, cwisiau a gemau newydd, a mwy o wybodaeth am Ysgolion newydd. Dewch yn ol I gadw llygaid ar beth sy’n mynd ymlaen!

yn-ol i dydalen gartref y plant

Challenges

Croeso i dudalen her Coedwigoedd Derw Meirionnydd!

Mae’r coedwigoedd derw yn lle gwych i chi gael dysgu mwy am y wlad o’ch amgylch, a sut y mae cynefin y coedwigoedd derw yn gweithio. Edrychwch ar y gwahanol bethau y gallwch eu creu a’u gwneud, dilynwch y cysylltiadau am bob dewis.

Helfa Drysor
Gwasgu Dail
Rhwbio Rhisgl

Helfa Drysor

Dyma her yr helfa drysor! Dewiswch ba helfa drysor sy’n cydweddu â’r tymor ac ewch i un o safleoedd Coedwigoedd Derw Meirionnydd (edrychwch ar y tudalennau lleoedd i fynd am syniadau) a derbyniwch yr her.

Yr Haf
(cliciwch am dydalen printiadwy)
  1. Dewch o hyd i dair gwahanol ddeilen; mae’n rhaid i un ohonynt fod o goeden dderw.
  2. Dewch o hyd i ffrwyth un o’r coed yn y goedwig; cofiwch nad yw pob ffrwyth yn aeron coch.
  3. Mae’r goedwig yn ffynhonnell eang ac amrywiol o fwyd ar gyfer llawer o anifeiliaid gwahanol; dewch o hyd i ddeilen y mae lindysyn wedi bwyta darn ohoni.
  4. Dewch o hyd i ddau wahanol fath o hadau coed.
Yr Hydref
(cliciwch am dydalen printiadwy)
  1. Dewch o hyd i chwe gwahanol liw oren, a rhowch hwy yn eu trefn o’r tywyllaf i’r goleuaf.
  2. Dewch o hyd i ddwy fesen sydd yn dal yn eu cwpanau.
  3. Mae mwsog yn rhan bwysig o gymuned blanhigion y goedwig, dewch o hyd i dro gwahanol fath o fwsog.
  4. Mae’r Hydref yn adeg wych ar gyfer astudio gwahanol siapiau a lliwiau’r dail yn y goedwig. Casglwch 10 gwahanol fath i fynd â nhw adref a’u.
Y Gaeaf
(cliciwch am dydalen printiadwy)
  1. Mae’r Gaeaf yn adeg heddychlon iawn yn y goedwig, ac wrth i chi gerdded gwrandewch ar drydar yr adar; faint o adar allwch chi eu clywed o fewn un funud?
  2. Mae’r coed i gyd yn noeth yn ystod misoedd y gaeaf… neu a ydyn nhw? Dewch o hyd i 4 coeden sydd yn dal i fod yn eu dail er ei bod hi’n ganol gaeaf.
  3. Mae bwyd yn brin yn ystod misoedd oer y gaeaf. Mae’r wiwer, y llygoden ddaear a sgrech y coed wedi bod yn manteisio ar y mes; allwch chi ddod o hyd i rai y mae un o’r anifeiliaid hyn wedi bod yn eu bwyta?
  4. Nid yw’r holl blanhigion yn farw drwy’r gaeaf; edrychwch am arwyddion o fywyd. Allwch chi ddod o hyd i unrhyw flagur neu egin newydd? Cyfrwch hwy ond peidiwch â’u casglu, mae arnom eu hangen er mwyn i’r goedwig gadw idyfu.
Y Gwanwyn
(cliciwch am dydalen printiadwy)
  1. Mae’r goedwig nawr yn dihuno ar ôl cwsg hir y gaeaf. Mae eirlysiau a briallu ymysg y blodau cyntaf i flaguro yn y gwanwyn. Allwch chi ddod o hyd i rai yn eich coedwig? Cofiwch, edrychwch arnynt, ond peidiwch â’u casglu. Gadewch hwy i bobl eraill gael eu mwynhau!
  2. Mae gan yr holl goed yn y goedwig wahanol flagur, ac o’r blagur neu’r egin y tyfa’r dail newydd. Dewch o hyd i flagur deilen y derwen, a dau fath arall – cofiwch, os oes arnoch angen cliw ynglyn â pha goeden ydyw, edrychwch ar lawr y goedwig am dystiolaeth!
  3. Nid oes croeso i bob planhigyn yn ein coedwigoedd derw! Allwch chi ddod o hyd i rododendron yn eich coedwig? - Edrychwch ar adran rhywogaethau mewnlifol i helpu chi i’w nodi a pham nad oes arnom ei heisiau yn ein coetiroedd derw.
  4. Beth allwch chi ei glywed yn y goedwig? 10 pwynt i’r person cyntaf i glywed cân y gog!

Sut i …Gwasgu Dail

Casglwch ddail, ac yna rhowch hwy rhwng dwy ddalen o bapur cegin, ac yna rhwng papur newyddion. Rhowch y dail a’r papur o dan lyfrau trwm ar wyneb gwastad. Ymhen ychydig ddiwrnodau, bydd gennych ddeilen wedi’i gwasgu.

Sut i… Rhwbio Rhisgl

I rwbio rhisgl, rhowch bapur yn erbyn eich rhisgl coed a’i rwbio’n ysgafn â chreon neu bensil lliw. Bydd delwedd o’r rhisgl oddi tano yn ymddangos ar y papur

Beth am wneud eich ‘Cit nodi coed’ eich hunan drwy gasglu’r holl ddail yr ydych wedi’u gwasgu, a’r gwaith rhwbio rhisgl, mewn llyfr, a chasglu gwybodaeth am y coedwigoedd derw lleol a’r gwahanol blanhigion a choed sy’n tyfu yno.