




| Mae'r bartneriaeth yn cynnwys sefydliadau ac unigolion cadwraeth, coedwigaeth a gweinyddol, preifat, llywodraethol ac anllywodraethol sy'n gweithio yn ardal Meirionnydd ac o amgylch, ac y mae arnynt eisiau gweithio gyda'i gilydd i wella Coetiroedd Derw rhyngwladol-bwysig Meirionnydd. |
Mae'r arian a dderbyniwyd o gronfa strwythurol Amcan 1 wedi'i gwneud yn bosibl i'r bartneriaeth wireddu ei huchelgais ar gyfer gwella Coedwigoedd Derw Meirionnydd. |
Mae gan PRhCCDM swyddfeydd yn Nolgellau ac mae yno dri aelod o staff; Andy Wills fel Rheolwr y Prosiect, Nicola Maysmor yn Stiward y Prosiect a Lynne Morris fel Gweinyddydd y Prosiect. Gellir cysylltu â nhw ar y cyfeiriadau canlynol: andy.wills@forestry.gsi.gov.uk, nicola.maysmor@forestry.gsi.gov.uk a lynne.morris@forestry.gsi.gov.uk |
Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw ymgynghorwr statudol y Llywodraeth ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a'r cyfle i fwynhau'r awyr agored yng Nghymru a glannau ei moroedd. Yr Awdurdod Cadwraeth Cenedlaethol.
Nod Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw gwella bioamrywiaeth ar eu tir eu hunain yn ogystal â chynnig grantiau i reoli rhywogaethau egsotig a mewnlifol, i dirfeddianwyr preifat yn Aber Mawddach. Maent hefyd yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a phrofiad o weithio gydag elfen rhywogaeth bwysig yr Atlantig yng nghoetiroedd y prosiect. |
Asiantaeth coedwigaeth y llywodraeth sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelu ac ehangu coedwigoedd a choetiroedd Prydain, gan gynyddu eu gwerth i'r gymdeithas a'r amgylchedd. Y Comisiwn Coedwigaeth yw'r partner arweiniol yn y prosiect, yn cefnogi staff y prosiect ac yn goruchwylio rhedeg y prosiect o ddydd i ddydd. |
Mae gan Goed Cadw reolwyr prosiect penodedig i sicrhau eu bod yn cyflawni'r gorau posibl ar gyfer eu safleoedd coetir. Dônt ag ystod eang o brofiad ac arbenigedd mewn rheoli coetir ac ym maes cyhoeddusrwydd i'r prosiect. |
Mae Eryri yn un o un Parc Cenedlaethol ar ddeg yng Nghymru a Lloegr, a dyma'r ail fwyaf ar ôl Ardal y LlynnoeddWedi'i dynodi ym 1951, dathlodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 50 mlynedd yn 2001, fel tirlun a warchodir. Mae'r Parc Cenedlaethol yn cynnwys 823 o filltiroedd sgwâr o'r cefn gwlad harddaf a heb ei ddifetha, yng ngogledd-orllewin Cymru. Yn wahanol i Barciau Cenedlaethol 'gwyllt' mewn mannau eraill yn y byd, mae Eryri yn gartref i ychydig dros 26,000 o bobl, sy'n byw ac yn gweithio yn ei drefi a'i bentrefi ac ar ei ffermydd mynydd.. Amcangyfrifir y treulir 6-10 miliwn o ddiwrnodau ymwelwyr bob blwyddyn yn mwynhau ystod eang o weithgareddau hamdden yn Eryri. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig cefnogaeth ariannol ac arbenigedd rheoli i'r prosiect. |
Rheilffordd Ffestiniog yw'r Cwmni Rheilffordd Annibynnol Hynaf yn y byd. Gallwch deithio ar ein trenau ager drwy olygfeydd godidog Parc Cenedlaethol Eryri, rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog. Heddiw, mae'r cwmni hefyd yn rhedeg trenau ar ei chwaer-reilffordd, Rheilffordd Ucheldir Cymru, rhwng Caernarfon a Rhyd Ddu- sef pwynt hanner ffordd prosiect mawr i ail-agor yr hen lein i Borthmadog. Mae'r Rheilffordd yn gweithio gyda'r prosiect i gael gwared â'r rhododendron ar hyd ei llinellau o Benrhyndeudraeth i Flaenau Ffestiniog. Am fod y rheilffordd yn llwybr hir, llinol, mae'n creu cysylltiad pwysig rhwng llawer o'n safleoedd allweddol |
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1895 i warchod mannau o ddiddordeb hanesyddol neu o harddwch naturiol. Yng Nghymru, mae'n gofalu am dros 45,000 hectar o gefn gwlad, 140 o filltiroedd o arfordir yn ogystal â rhai o'r cestyll a'r gerddi godidocaf. Yr Ymddiriedolaeth yw'r sefydliad cadwraeth mwyaf yn Ewrop, â 3.3 miliwn o aelodau, ac 87,000 ohonynt yn byw yng Nghymru. Fel elusen, mae'n dibynnu ar danysgrifiadau aelodaeth, rhoddion a chefnogaeth wirfoddol arall i dalu ei gostau cadwraeth a chynnal a chadw o £148 miliwn y flwyddyn. Mae gan eiddo'r Ymddiriedolaeth amddiffyniad cyfreithiol arbennig - ni ellir byth mo'u gwerthu na rhoi morgais arnynt heb ganiatâd y Senedd.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dod â rhai o'r safleoedd gorau ar gyfer rhywogaeth yr Atlantig I'r prosiect. |
Cafodd Flintshire Woodlands ei sefydlu yn 1953 fel cwmni-cydweithredol o berchnogion coetir. Nawr fel rhan o Scottish Woodlands Ltd, mae'n parhau i gynnig gwasanaethau tecnegol a phroffesiynol i amrywaeth helaeth o berchnogion coetir ag ystadau. Mae'r bedair coetir a reolir gan Flintshire Woodlands fel rhan o'r prosiect yma yn cael ei rheoli fel buddsoddiadau masnachol. Mae'r prosiect yma yn rhoi cyfle i rannau o coetir derw oddi fewn i'r planhigfeudd yma cael ei atgyweirio a'i roi dan reolaeth weithredol. Mae'r gwaith a gaiff ei ariannu gan y prosiect yma yn cynnwys tynnu rhywogaethau egsotig fel rhododendron a Chalcwm Siapan, a thynnu coed conwydd a phlanwyd yn yr un naw chwedegau. |
![]() Hafod Boeth Boeth yw un o'r llawer o goedwigoedd mewn perchnogaeth breifat yng Ngogledd Cymru a reolir gan Tilhill Forestry Cyf. Nod tîm rheoli Tilhill yw cyfuno amcanion perchennog y coetir ar gyfer y goedwig â'r prosiectau. Cryfder Hafod Boeth fel coedwig yw ei hamrywiaeth. Mae ganddi werth sylweddol o ran cadwraeth sy'n ymwneud yn bennaf â'r cynefin coedwigoedd Derw Atlantig sydd yn y safle ac ar hyd ei ymyl ddeheuol. Mae gan y goedwig hefyd gynefin llaid cwm, sydd wedi dioddef dirywiad sylweddol a cholli ansawdd o ganlyniad i or-bori a gwelliannau amaethyddol yn y DU gyfan. Mae perchennog Hafod Boeth wedi'i ymrwymo i adfer ac ehangu ardal cynefin y deri Atlantig a'r llaid cwm, ac i amddiffyn y boblogaeth o ystlumod pedol lleiaf a llygod y dwr. Bydd y gwaith a wneir gan Tillhill fel partner ym Mhrosiect Rheoli Coedwigoedd Derw Meirionnydd yn cynnwys:
|