Rhagfyr 2004 Rheolwr y Prosiect (Tîm Gordon-Roberts) yn dechrau gweithio, y datganiad cyntaf i’r wasg am gasglu mes yn cael sylw gan sawl papur lleol. Dewis Logo’r prosiect.
Tachwedd 2004 Y Cynlluniau Grant Coetiroedd Cyntaf yn cael eu derbyn gan y Comisiwn Coedwigaeth i gefnogi’r arian o Ewrop. Casglu 30,000 o Fes i’w tyfu a’u plannu ar safleoedd y prosiect gan hybu’r pwll genynnau lleol.
Hydref 2004 Stiward y Prosiect (Lea Hughes) a’r Gweinyddydd (Lynne Morris) yn dechrau gwaith ar y prosiect.
Medi 2004 Cwblhau’r gwaith arolygu a’r cytundebau cyntaf.
Gorffennaf 2004 Partneriaid yn paratoi eu Cynlluniau Grant Coetiroedd. Medi 2004 – Cwblhau’r gwaith arolygu a’r cytundebau cyntaf.
Mehefin 2004 Dechrau’r gwaith Arolygu Manwl, penodi Rheolwr Prosiect yn y cyfamser i osod yr ychydig gytundebau cyntaf ar gyfer rheoli rhododendron yng Nghoed y Garth (Aber Mawddach).
Mawrth 2004 Prosiect Rheoli Cynefin Coedwigoedd Derw Meirionnydd, Cronfa Gwarantu ac Arweiniad Amaethyddiaeth Ewrop, derbyn y Cynnig am

Rhagfyr 2005 Bu disgyblion o Tan y grisiau allan yng nghoed cymerau yn plannu Coed derw ond nid nhw oedd yr unnig rai allan yn y goedwig y diwrnod yna, daeth sion corn draw i roi help llaw ag anrheg i bob un ! Click here to go to the Schools page.
Tachwedd 2005 Coed Derw ar daith! Roedd mis Tachwedd yn ddechrau ar daith ein harddangosfa yn llyfrgelloedd Meirionnydd
Tachwedd 2005 Plant Ysgol Ganllwyd yn dod i’n coedlan gymunedol ni yn Glasdir i blannu Coed derw ifanc
Tachwedd 2005 Bu Ysgol Gellilydan allan am y bore yng Nghoed Felinrhyd yng nghwmni Lea Hughes a Rhydian Roberts yn dysgu am y coedlannau derw a sgwennu cerdd hefo Twm Morys y Bardd.
Tachwedd 2005 Diwrnod hyfforddiant adnabod Cen: bu aptentis Cen Joe Hope allan gyda criw brwdfrydig o archwilwyr cen yn treulio’r diwrnod yn Glasdir
Hydref 2005 Radio Bro Ffestiniog: bu Lea Hughes yn gwneud ei bwletin chwarterol i Radio Blaenau
Hydref 2005 Lawnsio gwasanaeth tecstio Coedydd Derw Meirionnydd.
Hydref 2005 Clwb Garddio Porthmadog: ymunnodd Lea Hughes a aelodau clwb garddio Porthmadog am sgwrs ddiddorol ag adeiladu bocsiau pathew
Medi 2005 Cyflwyniadau Rhwydwaith Cynefin Coedwigoedd Cafwyd y cyflwyniadau yma eu rhoi ym mis Medi 2005 i grŵp llywio’r prosiect yn ei cyfarfod lle gwahoddir aelodau o’r tîm rhwydwaith cynefinoedd i fod yn bresennol i weld os oedd modd defnyddio Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd fel prawf i’r ddyfais rheolaeth newydd yma. Fel y cewch weld, mae rhwydwaith cynefinoedd yn arddangos gwahanol ffyrdd o gysylltu’n ddaearyddol cynefinoedd neu rhywogaethau pwysig fel eu bod yn gallu symud o gwmpas yn rhwydd a lledaenu. Er engrhaifft, mae’n coedlannau derw ‘Atlantig’ ni yn cynnwys miloedd o wahanol rhywogaethau, ac mae pob un hefo dulliau gwahanol o groesi, atgenhedlu, a lledaenu allan i safleoedd newydd. Ar y funud mae’r coedlannau yn gyfres o ynysoedd neu fymrynoedd o goedwig llawer mwy a oedd yn arfer gorchyddio llawer o arfordir Gorllewinol Ewrop. Golygir hyn bod llawer o’n rhywogaethau llai symudol fel Cen a Pathewod wedi’w dal mewn ynys o goetir. Drwy ddefnyddio’r ddyfais rhwydwaith cynefin mae modd mewnbynnu data ynghlyn a’r rhywogaethau sy’n codi achos pryder. Mae’r data sydd angen yn cynnwys gwybodaeth ynghlyn a lleoliad, pellter y gallent hwy neu eu hadau yn gallu trafeilio, nodweddion o’r amgylchedd sydd yn gwahardd eu symudiad fel trefi, afonydd, mynyddoedd neu’r mor, eu cylenwadau bwyd, manylion ynghlyn a syt maen’t yn atgenhedlu ag ati. Unwaith y bu hyn wedi’w wneud ceir roi y wybodaeth ar fap i ddangos ym mhle mae’r rhywogaethau ag i ble mae modd iddynt wasgaru i, gelwir hyd fel arfer yn amrediad y rhywogaeth. Wedyn mae modd edrych ar fap graddfa tirlyn a ddangosith ein ynysoedd cynefin ag amrediad y rhywogaethau pwysig. Mewn byd perffaith buasai’r system yma yn cysylltu’r ynysoedd i gyd ag yn gallu’r rhywogaethau i symud yn rhydd ar draws y tirlyn cyfan. Mewn geiriau arall maen’t yn debygol o gwrdd a unigolion eraill ag atgenhedlu i roi poblogaeth iach i ni. I rhywogaethau symudol mwy fel ceir mae’n debygol y buasai’r canlyniad yn dangos eu bod yn barod yn symud yn rhwydd ag yn atgenhedlu. Ac gan bod niferoedd ceirw yn cynyddu’n ara deg dros Brydain i gyd gall bod yn eithaf ffyddiog mai hyn yw’r achos. Ond i rhai Cen sydd yn brin ar raddfa fyd-eang a sydd yn dibynnu ar wlithod a phryfetach i ledaenu ei sborau, nid yw’r dyfodol yn edrych mor ddisglair. Os yw’r map yn dangos poblogaethau sydd ar wahan, mae’n bosib defnyddio’r ddyfais i adnabod safleoedd a wneith ymddwyn fel cerrig camu, fel ein bod yn gallu canolbwyntio ein ymdrechion mewn termau creu ag adnewyddu coedlannau. Bydd gweithio yn yr ardaloedd yma yn ein cymorth i gysylltu’r poblogaethau ynysig a sicrhau dyfodol i’n rhywogaethau pwysig. Cymerwch olwg ar yr adroddiadau am rhagor o fanylion a rhai esiamplau lleol. Meirionnydd Presentation (4MB) Habitat Network Wales Presentation (1.7MB)
Medi 2005 Gwyl Gerdded y Bermo
Medi 2005 Cynhadledd Coedydd Derw’r Iwerydd yn Oban
Medi 2005 Ffair goed Powis: Bu Lynne a Lea yn y Ffair trwy’r penwythnos yn cwrdd a llawer iawn o bobl a oedd yn gefnogol iawn o’r prosiect
Gorffennaf 2005 Eisteddfod Genedlaethol: Bu Lea Hughes yn yr Eisteddfod trwy’r wythnos – Felly os y buo’ch i’m gweld ni cadwch mewn cysylltiad!
Gorffennaf 2005 Bu ymwelwyr o Ganada draw i goedlannau derw Meirionnydd i edrych ar syniadau gwahanol o fodelu coedwigoedd. Yn amlwg nid coedlannau plastig chwarae yr ydym yn feddwl ond yr arfer o gyd-weithio mewn partneriaeth er mwyn rheoli ardaloedd eang o goedwigaeth. Am fwy o fanylion edrychwch ar http://www.modelforest.net/cmfn/en/default.aspx
Gorffennaf 2005 Mae Lea wedi bod yn gweithio’n agos hefo dau fyfyriwr o Brif Ysgol Cymru Bangor. Mae’r ddau yn gweithio ar ei thesis yng nghoedlannau derw Meirionnydd. Mae un, Nicola Lloyd yn edrych ar groesrywio rhwng wahanol fathau o dderw, a Luke O’Connor yn edrych ar aildyfiant o lysdyfiant llawr y goedwig ar ol chwistrellu rhododendron.
Gorffennaf 2005 Aelodau o gynhadledd FACT/Gap (Forum for the application of Conservation Techniques / Grazing Animals Project) yn ymweld a choedlannau derw Meirionnydd
Mehefin 2005 Hefyd fel rhan o waith wythnos Bio-amrywiaeth Cymru bu Lea Hughes yn ymweld ag ysgol y gorlan yn Nhre Madog i son am yr holl anifeiliaid sy’n byw yng nghoedlannau derw Meirionnydd
Mehefin 2005 Bu Lea Hughes a dosbarth yr uned iaith o Ysgol y Gader allan i Farch ynys i ddysgu mwy am y goedwig fel rhan o wythnos Bio-amrywiaeth Cymru
Mehefin 2005 Dechrau ar y cynllyn dehongli newydd i’r llwybyr natur yn Llyn Mair
Mai 2005 Mae Prosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd wedi’w lawnsio’n swyddogol! Gyda siaradwyr yn cynnwys rhai o bartneriaid y prosiect a’r arglwydd Dafydd Elis-Thomas –am fanylion pellach gwelir newyddiadur mis Mai
Mai 2005 Bu’r tim ar daith noddedig i fynnu’r Wyddfa i godi arian i elusen gofal cancr Marie Curie, a codwyd £327!
Ebrill 2005 Mae Lea yn cael ei gwahodd ar Radi Bro Blaenau i sgwrsio am y prosiect
Ebrill 2005 Mae’r tim yn ymweld a phrosiect coed clogwyni yn Derbyshire
Mawrth 2005 Bu Lea Hughes, ceidwad y prosiect allan trwy’r dydd hefo grwp MSc cynllynio ag assesu effaith amgylcheddol o Brifysgol Maenceinion i edrych ar y rhan mae coedlannau derw Meirionnydd yn chwarae yn y tirlyn
Mawrth 2005 Rydym wedi bod yn brysyr paratoi am lawnsiad y prosiect, gyda’r tim derw wrthi’n dylunio pamphledi a phosteri y prosiect (sydd ar gael i’w is-lwytho ar y we)
Chwefror 2005 Grwp MSc o’r ysgol goedwigaeth ym Mhrif Ysgol Cymru Bangor yn ymweld a Hafod Boeth
Chwefror 2005
Chwefror 2005 Y coed Derw cyntaf yn cael eu plannu yn Ysgol Eifion Wyn; Lea a Lynne yn treulio’r dydd yn yr ysgol yn hyrwyddo addysg amgylcheddol. Diwrnod maes gyda myfyrwyr coedwigaeth ym Mangor gyda Tillhill yn Hafod Boeth i edrych ar glirio rhododendron ar raddfa fawr gan ddefnyddio tyrchwr wrth gerdded ac atodiad wthio i ddyrnu’r tyfiant a loriwyd.
Ionawr 2005 Staff y prosiect yn ymweld â safleoedd gwaith y Partneriaid. Diwrnod i gasglu a phlannu 200 o goed derw ifanc mewn potiau a gafwyd gan breswylydd o Faentwrog a ddarllenodd am ein prosiect yn y datganiad i’r wasg. Y coed i’w defnyddio mewn cynlluniau plannu cymunedol lleol. Lea yn cysylltu â Phrifysgol Cymru Bangor i drefnu ymweliadau maes ac annog prosiectau ymchwil yn y coetiroedd derw.
Rhagfyr 2006  Daeth Cymdeithas Eryri allan am dro odd amgylch y coedydd derw i godi chwant am eu cinio Dolig blynyddol.
Tachwedd 2006  Gwaith newydd i’n gwyrfoddolion! Rydym yn falch iawn i gael dweud bod un arall o’n gwirfoddolwyr wedi cael prentisiaeth hefo un o’n contractwyr coedwigaeth lleol ni ar ol dod allan i gymeryd rhan yn ein cyriau hyfforddiant!
Hydref 2006  Cwrs hyfforddiant arall! Treuliwyd y diwrnod yn adeiladu clwydi derw a helyg traddodiadol.
Hydref 2006  Mae’r bartneriaeth Coed derw wedi gwario £1.1miliwn hyd yn hyn!
Hydref 2006  Cafwyd hwyl yn barod at Galan Gaeaf yn y Coed derw wrth i ni gyd gymeryd rhan mewn cwrs cynhyrchu ysgybau.
Hydref 2006  Trefnwyd cwrs hyfforddi tri diwrnod ar syt i gynhyrchu golosg pren. Fe ddangoswyd gam wrth gam syt i newid gwastraff pren i fen i gynyrch gwerthfawr, a penderfynodd un a gymerodd rhan yn y cwrs i ddechrau ei fusnes cynhyrchu golosg ei hyn!
Hydref 2006  Bu plant o Ysgol Corris allan yn mwynhau prosiect celf dau ddiwrnod yn edrych ar gynefin y coedydd derw a’r poblogaeth leol o bathewod
Medi 2006  Fe drefnwyd diwrnod addysgol am adar gan Coed derw Meirionnydd a’r RSPB yn wylfan yr RSPB ym Mhenmaenpwl.
Awst 2006  Adroddiad datblygiadau: hyd yn hyn mae 48 coedlan, sef 1,400 hectar wedi dod o dan reolaeth gynaliadwy y prosiect. Rydym nawr wedi gwario dros £850,000
Awst 2006  Fe gafwyd cyfle yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe i arddangos yr holl waith sydd wedi’w gyflawni yn y 12 mis dwythaf.
Gorffenaf 2006  Sioe Frenhinol Cymru: Fe aeth tim y prosiect allan i gwrdd a’u cyhoedd
Mehefin 2006  Bu arddangosfa’r prosiect i lawr yn sioe goed Berkeley Castle a drefnwyd gan Fforwm Goed Cymru, ac yn arddangos y gorau o goed a chynyrch pren Cymru.
Mehefin 2006  Bu’r prosiect yn cymeryd rhan yn ffair Bioamrywiaeth Cymru ym Mhlas Tan y Bwlch. Dros y pedwar diwrnod roedd cymysgedd o weithgareddau i’r cyhoedd ag i ysgolion lleol. –cafwyd amser gwych gan bawb, ag edrychwn ymlaen at y flwyddyn nesaf.
Mehefin 2006  Bu arddangosfa’r prosiect ar daith unwaith eto yng ngwyl goed Cymru yn Llandudno. Unwaith eto roeddym wedi synnu a’r ymateb
Mai 2006  Coed campus Cymru Cafwyd amser gwych gan bawb yn ein gwyl goedwig deu ddydd a gynhaliwyd yn orsaf Tan y Bwlch.
Mai 2006  Mwy o waith blaidd! Bu’r plant o flwyddyn 5 yn ysgol Maeofferen yn cymeryd rhan mewn prosiect yn edrych ar hanes y coedydd derw a’r blaidd. (link to schools pages)
Ebrill 2006  Or diwedd fe gyrhaeddodd ein blaidd! Lleolwyd y cerflyn 7 troedfedd yn ei gartef newydd yn y Coed derw ger orsaf Coed y Bleiddiau. Fe gyrhaeddodd mewn steil! Cafodd ei lwytho ar ei dren stem ei hyn ym Mhorthmadog, ac mae’n profi i fod yn attyniad newydd i Reilffordd Ffestiniog
Ebrill 2006  Cynhaliwyd diwrnod hyfforddiant mewn adnabod bryoffytau yn ein coedydd derw, profodd i fod yn lwyddiant mawr. Os oes gennychi ddiddordeb mewn cymeryd rhan mewn diwrnod hyfforddi ymunwch an clwb textio neu cadwch lygaid ar y dydalen ddigwyddiadau ar y wefan
Ebrill 2006  Swydd drwy tecst? Yn dilyn llwyddiant y diwrnod hyfforddi walio cerrig fe gafon ragor o newyddio da. Mae un o’r gwirfoddolwyr a fynychodd yn y diwrnod walio cerrig wedi cael swydd gyda un o’n contractwyr lleol! (link to press release)
Ebrill 2006  Cynhaliwyd diwrnod hyfforddi walio cerrig yng nghoedlan gymunedol Glasdir. Bu’r diwrnod yn lwyddiant mawr gyda gwasanaeth tecstio coedydd derw Meirionnydd yn gymorth mawr mewn cael gafael ar wirfoddolwyr i gymeryd rhan yn y diwrnod
Mawrth 2006  Llyfrgell Bala oedd lleoliad diweddara arddangosfa coedydd derw Meirionnydd am fis. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael ein harddangosfa yn eich safle chi dewch mewn cysylltiad (e-mail link)
Mawrth 2006  Bu blwyddyn 7 o Ysgol y Gader yn Nolgellau allan yng nghoedlan gymunedol Glasdir yn gwneud gwaith plannu a cholbio rhododendron. (link to schools page and more info on planting)
Mawrth 2006  I nodi deng mlwyddiant cynllyniau bioamrywiaeth lleol yn cael ei gweithredu yn Eryri fe gynhaliwyd diwrnod gan y Parc Cenedlaethol yn edrych ar y newidiadau a’r llwyddianau sydd wedi digwydd ers ei gweithred. Gwahoddwyd swyddog y prosiect Lea Hughes i siarad ar ran y prosiect yn amlinellu’r canlyniadau da a geir o gynwys y cyhoedd mewn prosiectau cadwraeth.
Mawrth 2006  Bu myfyrwyr blwyddyn gyntaf coleg Llysfasi yn treulio’r diwrnod allan yn y coedydd derw yn dysgu am whanol technegau rheoli mewn ailsefydlu ac adnewyddu’r coedydd derw a rheoli rhododendron
Chwefror 2005  Treuliodd y plant yng ngwesyll Glanllyn yr wythnos yn dysgu am yr amgylchedd oi cwmpas a pham bod coedydd derw Meirionnydd mor bwysig fel rhan o’i gwobr John Muir
Ionawr 2006  Bu criw o fyfyrwyr o Ysgol Maes Garmon yr Wyddgrug i Glan-llyn i ddilyn cwrs amgylcheddol ac ennill cymhwyster 'Darganfod' Gwobr John Muir. Bu prosiect Coedydd Meirionnydd yn cyd-weithio hefo criw Glan-llyn yn helpu i blannu Coed a dysgu am y coedlannau derw.
Rhagfyr 2007  Roedd y Taith Gerdded Mins Pei a Gwin Gaeaf ar y 12ain o Rhagfyr yn llwyddianus iawn gyda'r tywydd yn ffeind! Roedd ein gwestai arbennig yn cynnwys Ross Willis o'r CFGA, Rhys Gwynn o'r APCE ag Aled Thomas, Rheolwr Ardal Lleol gyda'r Comisiwn Coedwigaeth. Hwyrach byddech digon lwcus i clywed y dadlau o'r diwrnod pan cafodd eu darlledu ar "Sioe Prynhawn" Roy Noble ar BBC Radio Wales ar y 19fed o Rhagfyr.
Rhagfyr 2007  Ar y 7fed o Rhagfyr bu Nicky a Ffion yn cynnal eu Digwyddiad 'Dolig olaf yng Nghorwen. Ym mhresennol oedd disgyblion o Ysgolion Cynwyd, Ysbyty Ifan, Dinmael a Llangwm.
Rhagfyr 2007  Ar y 6ed o Rhagfyr wnaeth Rhodri Wigley o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sef un o partneriaid y prosiect, dangos i grŵp o cefnogwyr Coedydd Derw y crefft hynafol o hollti derw. Bydd cyfle i'r grŵp trio'r crefft yma eu hunain ar ôl yr arddangosiad. Ar diwedd y dydd bu llawer o polion ffensio wedi'w cynhyrchu i'w ddefnyddio gan Rhodri ar y safle yn Nholmelynllyn.
Rhagfyr 2007  Ar dydd Mercher, y 5ed o Rhagfyr gwelsom myfyrwyr o Coleg Llysfasi yn ymweld â Coed Lletywalter i helpu John Owen o Saith Derwen i llenwi odyn golosg gyda coed. Roedd yn siawns i ddysgu am y ffordd gorau i lleoli'r coed i sicrhau'r llosgi gorau. Dychwelodd y myfyrwyr ar dydd Llun, y 10fed o Rhagfyr i wagu'r odyn. Roedd hyn yn cyfle i dosbarthu'r golosg a llenwi'r bagiau i fyny. Wnaeth pawb fynd gartref gyda bag o golosg yn barod at barbeciws yr haf! I prynu golosg wedi’i gynhyrchu’n lleol cysylltwch â saithderwen@btinternet.com
Rhagfyr 2007  Dychwelodd Nicky a Ffion i Bod Petrual ar y 4ydd o Rhagfyr. Y tro yma cawsom ymweliad gan disgyblion o Ysgol Cyffylliog a Ysgol Maes Hyfryd.
Rhagfyr 2007  Wnaeth y 3ydd o Rhagfyr gweld Nicky yn helpu un o'r Swyddogion Addysg erailll yn y Comisiwn Coedwigaeth, sef Ffion Hughes, gyda Digwyddiad 'Dolig i Ysgol Clocaenog ag Ysgol Babanod V.P. Llanelwy ym Mhod Petrual. Gyda ychydig o help gan Sara y Wiwer bu'r plant yn gallu dilyn y cliwiau i ddarganfod Siôn Corn!
Tachwedd 2007  Bu'r byd y brŷoffotau yn cael eu ymchwilio ar y 28ain o Tachwedd! Roedden yn ddiolchgar i Dr Marth Newton am bod mor garedig a dod allan i Neuadd Pentref Ganllwyd i gyflwyno sioe tryloywder ar wahanol mathau o mwsog. Wnaeth 12 ohonom allan i'r glaw trwm gyda'r gwybodaeth newydd yma yn ein meddyliau i weld pa rhywogaethau oedd ar gael yn y coed lleol!
Tachwedd 2007  Mae Nicky wedi bod yn brysur yn helpu allan gyda'r Digwyddiad 'Dolig i'r ysgolion lleol wedi'w cynnal gan Lyn Williams, Swyddog Addysg Comisiwn Coedwigaeth. Ar y 27ain o Tachwedd cawsom ymweliad gan disgyblion o Ysgol Bro Hedd Wyn, Ysgol Tŷ Meirion ag Ysgol Tŷ Arran a ddaeth allan i Coed y Brenin i weld y coed Nadolig yn cael eu cwympo. Wedyn wnaethom cael sgwrs gyda Siôn Corn!
Tachwedd 2007  Dros y 21ain a 22ain o Tachwedd bu'r Prosiect yn rhedeg Cwrs Walio Cerrig arall. Mae'r cwrs yma wedi troi allan i fod yn un o'n mwya boblogaidd. Ein diolch unwaith eto i Rhodri Wigley (o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) am rhannu'r arbenigedd ag i Rhydian (Coed Cadw) am ddarparu'r lleoliad. Roedd yr cyfranogwyr awyddus yn brysur iawn yn ail-adeiladu darn o wal wedi'w torri pan wnaeth coeden i lawr yn y gwynt yn Coed Felinrhyd. Wnaeth hyd nod y glaw ddim lleithio eu brwdfrydedd! Edrychwch yn y Galeri ar y gwaith ysblennydd trwy gweld y lluniau cyn ag ar ôl y gwaith trwsio.
Tachwedd 2007  Ar y 20ain o Tachwedd gwelsom Nicky allan unwaith eto ym mhlannu mwy o hadau, mes a cnau collen ond y tro yma, hefo'r dysgyblion yn Ysgol Carmel yng Nghaernarfon. Bu'r plant yn mwynhau dysgu am coed a'r amgylchedd a cawsom diwrnod llwyddianus iawn.
Tachwedd 2007  Ar y 19eg o Tachwedd bu Nicky Maysmor a Swyddog y Prosiect, Rhydian Roberts, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Penybryn, Tywyn i helpu'r plant plannu hadau, mes a cnau collen. Bydd Rhydian yn casglu'r glasbrennau i plannu yng Nghoed Ysgubor Wen, sef coedlan newydd yn Nhyffryn Dysynni prynwyd gan Coed Cadw yn ddiweddar.
Tachwedd 2007  Cawsom ein gorlethu gyda llawer o dysgwyr cen awyddus ar y 14eg o Dachwedd! Cafodd Nicky ag Arbenigwr Cen, Stephen Chambers, grŵp o 13 o archwilwyr dewr yn cario ymlaen trwy'r glaw yn Tan y Coed, Ganllwyd. Roedd y diwrnod yn siawns i'r cyfranogwyr dod yn agos i'r cen trwy defnyddio lensiau llaw arbennig sydd yn mawrhau'r cen. Llawer o ddiolch i Stephen am rhannu eu gwybodaeth hefo ni ar y diwrnod.
Tachwedd 2007  Ar y 10fed a 11eg o Tachwedd treiliodd Nicky y penwythnos gyda Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn helpu Cyd-Lynydd Bioamrywiaeth, Kate Williamson a gwirfodolwyr awyddus i gofnodi arwyddion mamaliaid yn yr ardal Meirionnydd ar rhan Prosiect Atlas Mamaliaid. Bydd dros 30 o bob dros Prydain Fawr yn ymuno'r ymchwiliad am dystiolaeth o mamaliaid yn yr ardal a bu 5 o safleoedd yn cael eu arolygu ar y dydd Sadwrn a 9 ar y dydd Sul. Cafodd 14 o wahanol rhywogaethau mamaliaid eu gofnodi.
Tachwedd 2007  Llawer o ddiolch i Jack Grasse am ddod allan i Pantperthog ar y 9fed o Dachwedd i helpu Nicky dysgu dosbarth o Ysgol Brithdir am y pathew a'i cynefin. Dysgodd y plant am y creadur bach swil yma ag hefyd bu'r plant yn helpu plannu coed collen sydd yn ffefryn o'r pathew!
Hydref 2007  Roedd y 29ain o Hydref yn golygu bod hi'n amser i'r Diwrnod Hwylus Hydref roedd y Comisiwn Coedwigaeth yn rhedeg yng Nghoed y Brenin. Wnaeth Coedydd Derw Meirionnydd mynd i helpu allan a cawsom llawer o ymwelwyr.
Hydref 2007  Mae Nicky wedi bod yn brysur hefo ysgol arall lleol, Ysgol y Clogau, ond y tro yma yn gwneud ysgubau bach gyda Rod a Helen Waterfield ar y 26ain o Hydref. Wnaeth y plant gwneud gwialenni a coronau helyg hefyd a rydym yn obeithio cawson llawer of hwyl gyda rhain!
Hydref 2007  Cawsom diwrnod o gwaith caled ar y 24ain o Hydref yn gwneud y Diwrnod Cadwraeth i'r Iâr Fach yr Hâf ond roedd y tywydd yn gogoneddus a mwynhaeodd pawn eu hunain. Diolch o galon i pawb ddaru helpu ar y diwrnod. Wnaeth myfyrwyr Coleg Llysfasi "colbio'r rhody" tra oedd Gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri a Gwirfoddolwyr Coedydd Derw Meirionnydd yn dadwreiddio'r eithin!
Hydref 2007  Wnaeth Nicky a Lyn Williams, ein Swyddog Addysg lleol, allan i'r coed yng Nghoed y Brenin ar y 19eg o Hydref i hel mes hefo 3 o ysgolion o Bala. Dysgodd y plant ysgol am wiwerod yn cuddio'r mes ac weithiau yn anghofio ble maen't wedi eu cuddio! Cawsom llawer o hwyl a wnaeth pawb gwneud coron o lliwiau'r Hydref!
Hydref 2007  Bydd rhai golygwyr o BBC2W wedo gweld Andy a Nicky yn gweithio'n galed yn y cefndir ar y rhaglen "Your Wales Today" ar yr 11ain o Hydref. Wnaeth Huw Jeknins, cefnogwr awyddus o'r Prosiect, gyflwyno darn ynghlyn a'r cwrs hyfforddi walio cerrig wnaethom rhedeg yn ddiweddar.
Hydref 2007  Trefnodd Coedydd Derw Meirionnydd ail ddiwrnod Chwilota am Ffyngau yng Nghoed Ganllwyd Dolgellau ar y 10fed o Hydref. Unwaith eto fe ddaeth Nigel Brown, Curadur Gerddi Botaneg Treborth i arwain y ffordd ac fe ymunodd aelodau o’r cyhoedd a deuddeg myfyriwr o Erddi Kew yn Llundain gyda ni. Cafwyd diwrnod llwyddiannus a’r tro yma fe ddarganfuwyd 60 o wahanol ffyngau! Rhestr o’r rhywogaethau i ddilyn cyn bo hir…
Hydref 2007  Clywsoch chi Nicky a cyn Ceidwad y Prosiect Lea yn siarad i Iolo Williams ar ei rhaglen "Byd Iolo" ar Radio Cymru ar y 9fed o Hydref? Roedd Coedwigoedd Law Dymherus, Coedydd Derw Meirionnydd, Diwrnodau Cadwraeth ag "ymweliad" i'r Amazon wedi'w pacio i mewn i'r rhaglen!
Medi 2007  Fe aeth Nicky Maysmor i’r Diwrnod Rhwydweithio Cenedlaethol Menter Addysg Coedwig Prydain Fawr oedd yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Brenhinol Cenedlaethol Llangollen ar y 26ain Medi. Roedd yn gyfle i Nicky gwrdd â phawb oedd yn gysylltiedig ag addysg coetir ac i rannu syniadau. Fe gynhaliwyd gweithdai megis Coed ar gyfer Naddion a Choed ar gyfer Cadwraeth drwy’r dydd, ac fe roddodd y rhain syniadau i Nicky ar gyfer diwrnodau addysg - felly gwyliwch allan!
Medi 2007  Fe gynhaliwyd ein diwrnod chwilota am ffyngau cyntaf yng Nghoedwig Felinrhyd, Maentwrog ar y 27ain o Fedi. Roedd y digwyddiad o dan arweiniad Nigel Brown, Curadur Gerddi Botaneg Treborth. Fe ymunodd deunaw myfyriwr MSc o Brifysgol Bangor â Nigel ac fe gawsom hwyl gyda’r chwilota ffantastig fewn i’r goedwig lle ddaethom o hyd i dros 50 o wahanol ffyngau! Rhestr o’r rhywogaethau i ddilyn cyn bo hir…
Medi 2007  Cawsom tywydd da, o'r diwedd i cynnal ein cwrs hyfforddi walio cerrig ar y 5ed a 6ed o Medi. Roedd yn dda clywed bydd y wal wnaethom adeiladu ar safle Coed Cadw yn Coed Felinrhyd ar y diwrnod cyntaf yn cael ei ddefnyddio gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru i cadw defaid i fewn i pori. Bydd hyn yn helpu tyfiant y cen - yn enwedig y cen arbennig sydd yn tyfu yma.
Awst 2007   Croeso i'n staff newydd! Bydd Andy Wills yn cymerud drosodd swydd y Rheolwr a Nicola Maysmor bydd y Ceidwad newydd. Bydd y ddau yn cychwyn gweithio ar y Prosiect ar yr un amser sef y 3ydd o mis Medi. Llyniau i ddod … cadwch llygad allan am y Newyddiadur newsaf!
Mehefin 2007   Mae Lea a Tim yn cychwyn ei swyddi newydd ac yn dweud hwyl fawr i'r Coedydd Derw Meirionnydd!
Mai 2007   Diolch mawr i Chris Hall - ein dyn dyfrgwn! Diwrnod llwyddianus arall mewn cadwraeth a wnaeth darfod mewn adeiladu cartref newydd I'n ffrindiau blewog! Dysgodd y cyfranogwyr syt i adnabod oelion dyfrgwn a byddant yn cadw llygad allan pan yn mynd am dro … BBC Radio Otter programme
Mawrth 2007  Cwrs Gwehyddu Helyg.n fe aeth ein gwirfoddolwyr allan i hel a gwehyddu eu helyg eu hynain.
Chwefror 2007  Diwrnod hyfforddi sgiliau prysgwydd a dysgu am Bathewod – cafwyd hwyl gan bawb –er bod y tywydd wedi bod ychydig bach yn damp!
Ionawr 2007  Fe aeth y byrddau dehongli a’r meinciau newydd allan yn ei lle –ewch allan i gael gweld ein llwybrau newydd!
Mai 2008  Cynhaliwyd diwrnod cyntaf cwrs arall ar wneud golosg ar ddiwedd mis Ebrill gyda’r ail ddiwrnod yn cael ei gynnal ar 1 Mai. Mynychodd grŵp bach o gyfranogwyr brwd yr arddangos terfynol o sut i wneud y cynnyrch hynafol hwn. Rydym wedi dosbarthu’r diwethaf o’n sacheidiau golosg rhad ac am ddim bellach! Os hoffech brynu ychydig o’r golosg lleol, cysylltwch â John Owen o Saith Derwen drwy anfon neges e-bost at saithderwen@btinternet.com
Ebrill 2008  Roedd hon yn wythnos brysur i’r Prosiect gan fod cwrs arall ar adeiladu waliau cerrig yn cael ei gynnal ar 24 a 25 Ebrill. Ailadeiladwyd rhan arall o’r wal ar safle Coed Cadw yng Nghoed Cymerau Isaf ac mae’n edrych yn drawiadol tu hwnt.
Ebrill 2008  Roedd Nicky allan unwaith eto ar 23ain Ebrill ar gyfer y daith gerdded Rhedyn a Chân yr Adar. Arweiniwyd y daith gerdded gan Nigel Brown o Brifysgol Bangor ac roedd hwn yn gyfle i’r cyfranogwyr ddysgu am y rhedyn y byddwn yn mynd heibio iddynt o ddydd i ddydd ar ein teithiau cerdded trwy’r coed a dysgu sut i adnabod pa adar rydym yn gwrando arnynt. Daeth myfyrwyr o Brifysgol Bangor a 15 o gefnogwyr y prosiect ar y daith, gan wneud y mwyaf o dywydd braf y Gwanwyn.
Ebrill 2008  Roedd Andy, Rheolwr y Prosiect, allan unwaith eto ar 17ain Ebrill yn tywys Panel Ymgynghori Y Strategaeth Goetiroedd o gwmpas ein coetir poblogaidd yng Nghoed y Garth. Roedd yn gyfle i’r grŵp weld y gwaith adfer a wnaed yn ddiweddar ger y llynnoedd Fictoraidd. Gallwch werthfawrogi’r olygfa o’r fainc yn y llun – sydd ar y ffordd i’r llynnoedd lle gallwch chi gael picnic braf!
Ebrill 2008  Ar 10eg Ebrill roedd Nicky, Ceidwad y Prosiect, wrthi’n brysur yn plannu mwy o goed cyll ar ein safle Coetir Cymunedol yn Y Glasdir. Daeth plant Ysgol Llanelltyd ac Ysgol Llanfachreth draw i helpu. Beth am weld a allwn ni annog gwiwerod coch i symud mewn!
Ebrill 2008  Cynhaliwyd diwrnod arall o hollti coed derw ar 9fed Ebrill yng nghwmni Rhodri Wigley o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y tro hwn, bydd y derw a gafodd ei hollti’n cael ei ddefnyddio yn y fan a’r lle yn Nolmelynllyn, Ganllwyd i greu grisiau newydd ar hyd un o’r llwybrau.
Mawrth 2008  Cynhaliwyd cwrs arall ar adeiladu waliau sych ar ddiwedd mis Mawrth yn safle Coed Cadw yng Nghoed Cymerau Isaf ym Mlaenau Ffestiniog. Parhaodd y grŵp â’r gwaith da a ddechreuwyd gan y grŵp diwethaf yn y fan hon gan ailadeiladu rhan bellach o’r wal. Pam na wnewch chi ddod draw i weld yr holl waith caled?
Mawrth 2008  Ar 11ain Mawrth, cyfarfu Andy Wills, Rheolwr y Prosiect, ag aelodau'r Grŵp Rhwydweithio Cynefin am ail ymweliad. Efallai eich bod yn cofio darllen ar y tudalennau datblygiad ym mis Medi 2005 bod y Prosiect yn gobeithio bod o gymorth â gwaith y Grŵp Rhwydweithio Cynefin. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar yr ardaloedd chwâl o goetir er mwyn nodi camau posib i ni allu canolbwyntio’n hymdrechion o ran creu coetir newydd neu adfer coetiroedd presennol. Byddai gweithio yn y meysydd hyn yn ein helpu i gysylltu’n rhywogaethau ynysig a sicrhau’r dyfodol ar gyfer ein rhywogaethau brodorol pwysig.
Mawrth 2008  Aeth y prosiect i ddiwrnod Rhwydweithio Coetir yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CAT), Machynlleth, ddydd Gwener y 7fed o mis Mawrth. Roedd hwn yn gyfle i grwpiau a sefydliadau coetir amrywiol gwrdd â’u cymdogion a thrafod materion. Daeth y diwrnod i ben â thaith dywys o gwmpas Canolfan y Dechnoleg Amgen i weld yr holl waith clodfawr sy’n cael ei wneud yno.
Chwefror 2008  Cynhaliwyd cwrs gwneud golosg arall poblogaidd tros ddeuddydd yng nghwmni John Owen o Saith Derwen ar 25ain a 28ain o Chwefror. Y tro hwn daeth cefnogwyr y prosiect allan i weithio am eu sachaid rhad ac am ddim o olosg! Cawsom losgiad llwyddiannus arall a gynhyrchodd olosg o safon dda.
Ionawr 2008  Roedd yn wythnos brysur i'r prosiect yr wythnos yma gyda dydd Gwener, y 25ain o mis Ionawr yn gweld ni'n dysgu sut i hadnabod mamaliaid y coed ar ein diwrnod "Arwyddion ag Hoel Traed Mamaliaid". Cawsom cyflwyniad bur gan Rob Strachan, Ymgynghorydd Mamaliaid, yn Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin cyn mynd allan i'r coed! Wnaethon ymweld a'r cuddfan ceirw gyda Ceidwad Cadwraeth y Comisiwn Coedwigaeth, Iori Jones, oedd hefyd ar law i sgwrsio am y boblogaeth lleol o ceirw. Dychwelwyd i'r Canolfan Ymwelwyr hefo pawb yn cadw llygad allan am hoelion mamaliaid!
Ionawr 2008  Ar y 23ain a 24ain o mis Ionawr cawsom cwrs walio cerrig arall. Unwaith eto, cafodd y cwrs yma ei cynnal ar tir Coed Cadw yn Coed Felinrhyd Isaf ym Mhlaenau Ffestiniog. Rhodri Wigley o'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol oedd ein arbenigwr. Roedd rhaid I'r cyfranogwyr tynu lawr darn o wal wedi'w difrod dros y mlynyddoedd a'u ail-godi. Mae llyniau o'r wal cyn ag ar ôl y gwaith ar ein Oriel!
Ionawr 2008  Cawsom diwrnod arall o gwneud polion derw ar y 18eg o mis Ionawr, ond y tro yma yn penodol i Gymdeithas Eryri. Unwaith eto ddaeth Rhodri Wigley o'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol allan i arddangos yr crefft hynafol yma. Hwyrach gwelsoch yr erthygl yn y Cambrian News?
Ionawr 2008  Ar y 16eg o mis Ionawr wnaeth partneriaid y prosiect a'u gwesteion ymweld â Castell y Waun i weld yr coed hynafol gwych sydd yna. Roeddem yn lwcus i cael Carl Green o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i harwain taith o gwmpas yr eiddo i trafod rheolaeth y coed hynafol yma. Wnaeth Katherine Owen sydd yn Gwireddwr Coed Hynafol gyda Coed Cadw ymuno â ni i hefyd i egluro beth fydd Gwireddwr yn edrych am. Cawsom diwrnod diddorol iawn a byddwn yn argymell ymweliad i Castell y Waun - eiddo hardd iawn! Edrychwch ar y oriel am llyniau'r coed hynafol!
Prosiect Newyddiadur
Gwanwyn 2008
Gaeaf 2007
Hydref 2007
Hâf 2007
Gwanwyn 2007
Hydref 2006
Hâf 2006
Gwanwyn 2006
Tachwedd 2005
Hydref 2005
Gorffennaf 2005
Mai 2005
Ebrill 2005
Mawrth 2005
Chwefror 2005
botwm yn cysylltu i tudalen gartref botwm yn cysylltu i Coedwig Law Dymherus botwm yn cysylltu i Coedwigoedd Derw. botwm yn cysylltu i nodiadau rheolaeth. botwm yn cysylltu i Rhywogaethau. botwm yn cysylltu i Gynnydd. botwm yn cysylltu i oriel. botwm yn cysylltu i Partneriaid. botwm yn cysylltu i Cymuned a Threftadaeth. botwm yn cysylltu i Ymhle I Weld botwm yn cysylltu i Digwyddiadau gwefan wedi'w gynllunio, ei gynhyrchu a'i gynnal gan alanarnott.net

progress