Nodau Prosiect Coedwigoedd Derw Meirionnydd
Rydym ni'n 'bartneriaeth i ofalu am goetiroedd derw Meirionnydd, yn hyrwyddo eu pwysigrwydd i'r gymuned, yr economi a'r amgylchedd'.
Sut mae'r prosiect yn gweithio
Er mwyn i'r prosiect fod yn llwyddiannus, mae angen llawer o gydweithredu gan nifer fawr o bobl leol a grwpiau diddordeb. Mae cyfranogiad cymunedol yn allweddol i ddiogelu'r safleoedd hyn yn yr hir dymor, a defnyddir safleoedd â mynediad diogel iddynt ar gyfer dehongli ac addysg amgylcheddol.
Rhestrir y safleoedd sydd â mynediad agored neu lwybrau dynodedig ar ein
Tudalen Yllefydd i Weld.
Mae arnom eisiau sicrhau bod y gwaith a gwblheir drwy'r prosiect o'r safon uchaf, ac felly bydd y rhan fwyaf o'r gwaith a wneir ar dir preifat a thir cyhoeddus nad yw'n eiddo i'r Comisiwn Coedwigaeth, yn unol â
Chynllun Grant Coetir y Comisiwn Coedwigaeth.
Mae ein partneriaid yn y prosiect yn arloesol mewn rheolaeth gadarn ar yr amgylchedd a choedwigaeth; adlewyrchir hyn yn glir yn y rhaglenni gwaith ar gyfer y safleoedd.
Y Comisiwn Coedwigaeth yw'r prif bartner ac ardystir bod y cyfan o'u hystâd yn cael ei rheoli'n gynaliadwy o dan
Gynllun Sicrhau Coetiroedd y DU,sef safon arfer gorau fyd-eang ar gyfer rheoli coedwigoedd.
Ein nod yw 'Cyfuno amgylchedd iach, a reolir yn dda, â chynhyrchedd a hyfywdra economaidd drwy reoli cymeriad arbennig, unigryw coetiroedd rhyngwladol bwysig Meirionnydd, sydd dan fygythiad, a gwneud hynny yn gynaliadwy er budd y cyhoedd, yr economi lleol, bioamrywiaeth, a'r tirlun'.
Ein nod yw cyflawni hyn drwy:
- Hyrwyddo rheoli coetiroedd llydanddail yn y ffordd draddodiadol. Bydd hyn yn cynnwys gwaith coedwigaeth fel teneuo, cwympo coed dethol, coedlannu a llosgi golosg. Bydd y gweithrediadau o fantais i gynefin coetiroedd derw tra'n cefnogi'r diwydiant coedwigaeth lleol o'r rhai sy'n defnyddio llif gadwyn a'r sgwadiau plannu hyd at y melinwyr llif a'r masnachwyr pren.
|
|
- Gwella bioamrywiaeth coetir cynhenid drwy reoli rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid a rhywogaethau mewnlifol fel Cegid y Gorllewin, pefrwydden, Rhododendron a chanclwm Siapan a all oresgyn safleoedd gan achosi dirywiad yn y rhywogaethau cynhenid sensitif sy'n gwneud y safleoedd hyn yn rhai mor bwysig.
|
|
- Cynnwys cymunedau lleol yng ngofal hir dymor eu coetiroedd lleol. Mae Nicoal Maysmor yn ymroddedig i'ch cael chi i ymwneud â'ch coedwig leol. Bydd yn cynnal digwyddiadau ledled yr ardal o ddiwrnodau casglu a phlannu Mes i gynnal stondinau mewn sioeau lleol ac ymweld ag ysgolion. Pe byddech yn hoffi cael gwybod mwy, cysylltwch â Nicola.
|
|
- Creu swyddi hirdymor i bobl leol drwy osod contractau ar gyfer gwaith rheoli i gontractwyr coedwigaeth lleol. A thrwy reolaeth fasnachol gyfyngedig ar goetiroedd, creu nwyddau coedwigaeth i'w marchnata'n lleol ac yn genedlaethol.
|
|
- Y cyhoedd yn cael gwell mynediad drwy greu neu wella llwybrau natur, llwybrau beicio, mynediad Pob-Gallu a mynediad ar gyfer cerdded yn anffurfiol.
|
|
- Cyfleu'r neges am reoli coetiroedd mewn ffordd gadarnhaol i gymaint o bobl ag sy'n bosibl drwy ddarparu paneli dehongli, taflenni, y wefan a thrwy ymweliadau addysgol.
|
|
- Cyfrannu at economi dwristiaeth Meirionnydd yn enwedig yn y tymhorau gweddol dawel yn y Gwanwyn a'r Hydref. drwy wneud ein safleoedd yn fannau mwy deniadol a diddorol i ymweld â nhw a gwella golygfeydd y tirlun drwy wneud iddynt deimlo'n fwy naturiol.
|
|
- Rhoi mwy o gyfleoedd i wylio bywyd gwyllt. Trwy'r prosiect byddwn yn adeiladu gwylfa adar, ac yn cynnal diwrnodau agored i'r cyhoedd i ddwyn sylw at rywogaethau lleol sydd dan berygl, fel ystlumod a phathewod (llygod daear).
|
|
- Sicrhau rheoli'r safleoedd a gaiff eu gwella yn yr hir dymor, er mwyn parhau i'w gwelladrwy ddarparu Cynlluniau Rheoli.
|
|
Mae'r holl waith prosiect yn seiliedig ar egwyddorion y dogfennau canlynol: