Ar yr ail o fis Chwefror bu criw coedydd derw Meirionnydd yn treilio’r diwrnod allan yn Ysgol Eifion Wyn ym Mhorthmadog. Mae’r ysgol wedi symyd safle yn ddiweddar i ger y ganolfan hamdden, er bod gan yr ysgol gae chwarae mawr, nid oes fawr o goed o gwmpas. Daeth y criw coed derw i’r ysgol i helpu plannu 30 o goed , gyda phob coeden wedi’w thyfu o fewn 5 milltir o’r ysgol. Dyma rai o lyniau o’n diwrnod allan yn plannu.
Ym mis Tachwedd bu Ysgol y Ganllwyd allan i goedlan cymunedol Glasdir i wneud ychydig o waith plannu. Er ei bod hi wedi bod yn ddiwrnod reit oer, roedd pawb wedi mwynhau ei hynain a wedi plannu dipyn go lew o goed derw.
Bu uned iaith Ysgol y Gader yn Nolgellau allan i ymweld a un o’n coed derw. Fe gafon amser gwych allan yn y goedwig ond hefo gwahaniaeth… er ein bod yn edrych ar y coedlannau derw ag yn dysgu amdannynt, roeddym yn cymeryd y cyfle i ddysgu’r termau age enwau cymraeg am y gwahannol goed a phlanhigion.
Yn mis Awst daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Faenol ger Bangor a bu’r prosiect yno am yr wythnos yn cael ei harddangos ar stondin y Comisiwn Coedwigaeth. Profon i fod yn boblogaidd iawn gyda sawl un yn aros am sgwrs tra bod ei plant yn cael tro ar wehyddu helyg
Bu disgyblion o Tan y grisiau allan yng nghoed cymerau yn plannu Coed derw ond nid nhw oedd yr unnig rai allan yn y goedwig y diwrnod yna, daeth sion corn draw i roi help llaw ag anrheg i bob un !
Mae Nathan Sutcliffe yn fyfyriwr blwyddyn 7 yn ysgol y gader, llynedd bu Nathan yn bresenol yn gynhadledd plant y byd y cenhedlau unedig yn Japan. Tra yr oedd yno roedd pob plentyn wedi gwneud addewid i blannu digon o goed yn ei gwlad cartrefol i negyddu’r llygredd a gafodd ei greu drwy hedfan i Japan, felly daeth Nathan mewn cysylltiad a Phrosiect Coedydd Derw Meirionnydd i weld os oedd modd cyd weithio.
Trefnodd Nathan a swyddog y prosiect Lea Hughes ddiwrnod plannu yng nghoedlan gymunedol Glasdir. Daeth blwyddyn 7 i gyd allan i blannu coedlan dderw newydd ag i golbio Rhododendrons!
Mae dyffryn Ffestiniog yn ardal llawn hanes a chwedlau, bu ysgol Maenofferen o Blaenau Ffestiniog allan yn cymeryd rhan mewn prosiect hefo Prosiect Coedydd Derw Meirionnydd yn edrych ar syt mae’r dyffryn a’r coedlannau derw wedi newid dros y blynyddoedd. Bu’r plant yn ymweld a’r coedlannau derw gyda Rheilffordd Ffestiniog a treuilio’r diwrnod allan yn y coed yn clywed gwahanol straeon amdan y bleiddiaid yn y cwm. Wedi’w hysbrydoli gan ei diwrnod allan a’r cerflyn blaidd, treuliodd y plant y diwrnod nesaf yn bod yn greadigol iawn a gwnued ei masgiau blaidd ei hynain allan o helyg.
Ar ddiwrnod heulog braf ym mis Hydref, daeth disgyblion o dair ysgol, sef Ysgol Ffridd y Llyn, Ysgol Bro Tryweryn ac Ysgol Bro Tegid ar ymweliad â Choed y Brenin i gymeryd rhan yn y diwrnod casglu hadau. Cyn casglu mes a’u plannu mewn potiau, bu’r plant yn cymeryd arnynt eu bod yn wiwerod ac yn cuddio'r mes. Ar ddiwedd y dydd, roedd yn rhaid i’r plant geisio cofio ble yr oeddynt wedi cuddio’r mes. Roeddynt yn dysgu drwy hyn nad yw’r wiwer bob amser yn cofio ble y mae wedi cuddio ei mes, ac mae’r mes felly yn tyfu’n goed Derw.
Ar y 26ain o Hydref bu disgyblion o Ysgol y Clogau yn y Bontddu yn ymweld â’u neuadd gymunedol, a threuliwyd y bore yng nghwmni Rod a Helen Waterfield yn dysgu gwneud gwaith crefft hynafol. Bu’r plant yn dysgu sut i wneud ysgubau bach, gwialenni a choronau helyg, a chawsant fynd â’u cynnyrch adref gyda hwy.
Wnaeth yr plant o Ysgol Corris mwynhau cymeryd rhan mewn prosiect dros dau ddiwrnod yn edrych ar cynefin coedydd derw a trefedigaeth lleol y pathew. Edrychwch ar y prosiect celf rhyfeddol wnaethom creu i'r dosbarth - mae'n ysblennyd!
Cysylltwch â Ceidwad y Prosiect, Nicky Maysmor, os hoffech eich ysgol chi cael ymuno mewn rhywbeth tebyg!
Fe aeth Nicky Maysmor, Ceidwad y Prosiect, i’r "Diwrnod Rhwydweithio Cenedlaethol" Menter Addysg Coedwig Prydain Fawr oedd yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Brenhinol Cenedlaethol Llangollen ar y 26ain Medi. Roedd yn gyfle i Nicky gwrdd â phawb oedd yn gysylltiedig ag addysg coetir ac i rannu syniadau. Fe gynhaliwyd gweithdai megis Coed ar gyfer Naddion a Choed ar gyfer Cadwraeth drwy’r dydd, ac fe roddodd y rhain syniadau i Nicky ar gyfer diwrnodau addysg - felly gwyliwch allan!
Ar y 19eg o Tachwedd bu Ceidwad y Prosiect, Nicky Maysmor a Swyddog y Prosiect, Rhydian Roberts, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Penybryn i helpu'r plant plannu hadau, mes a cnau collen. Bydd Rhydian yn casglu'r glasbrennau i plannu yng Nghoed Ysgubor Wen, sef coedlan newydd yn Nhyffryn Dysynni prynwyd gan Coed Cadw yn ddiweddar.
Mae dyffryn Ffestiniog yn ardal llawn hanes a chwedlau, bu ysgol brithdir o Blaenau Ffestiniog allan yn cymeryd rhan Llawer oddiolch i Jack Grasse am ddod allan i Pantperthog ar y 9fed o Dachwedd i helpu Nicky dysgu dosbarth o Ysgol Brithdir am y pathew a'i cynefin. Dysgodd y plant am y creadur bach swil yma a wnaethom helpu plannu coed collen - sy'n ffefryn y pathew!
Ar y 20ain o Tachwedd gwelsom Nicky allan unwaith eto ym mhlannu mwy o hadau, mes a cnau collen ond y tro yma, hefo'r dysgyblion yn Ysgol Carmel yng Nghaernarfon. Bu'r plant yn mwynhau dysgu am coed a'r amgylchedd a cawsom diwrnod llwyddianus iawn. Dim lluniau, yn anffodus...



