




Y rhywogaethau nodweddiadol nad ydynt yn gynhenid sy’n achosi problemau ym Meirionnydd yw: -
Rhododendron, Japanese Knotweed, Hymalayan Balsam,
Non-native Trees.
|
Rhywogaethau Egsotig Nid yw llawer o’r planhigion a blannwyd yn y wlad hon yn hanu’n wreiddiol o’r rhanbarth hwn; caiff y rhain eu galw’n ‘rhywogaethau egsotig’. Gelwir y rhywogaethau o’r wlad hon yn rhai ‘cynhenid’. Rhywogaethau mewnlifol yw’r rhai a all oresgyn safle drwy gau allan yr holl rywogaethau eraill. Mae’r rhywogaethau egsotig yn dueddol o fod yn fewnlifol hefyd am nad oes ond ychydig, neu ddim planhigion ac anifeiliaid yn gysylltiedig â nhw yn y wlad hon. Golyga hyn eu bod yn dueddol o fod yn llai agored i glefydau ac i gael eu hysbeilio, ac felly gallant oroesi tra bod ein hanifeiliaid cynhenid yn ymosod ar ein planhigion cynhenid. Mewn coedwigaeth ac amaethyddiaeth, dewiswyd y rhywogaethau egsotig yn y gorffennol am yr union resymau hyn, oherwydd y gallant dyfu a rhoi cnwd mewn mannau ac amgylchiadau lle na all ein planhigion cynhenid. Mae’r rhywogaethau hyn hefyd yn dueddol o dyfu yn gynt, ac felly o safbwynt masnachol, maent yn cynhyrchu cnwd yn gynt. Mewn amgylchedd naturiol, mae planhigion egsotig yn achosi problemau oherwydd bod llawer ohonynt yn tyfu’n gynt ac yn gallu taflu cysgod trwchus a all rwystro rhywogaethau cynhenid rhag tyfu a lledaenu. Yn y pendraw, gall hyn arwain at golli safleoedd naturiol wrth i’n rhywogaethau cynhenid farw. Caiff y broblem ei dwysau oherwydd bod y planhigion yn fwyd i bryfetach a mamaliaid bach, sydd yn eu tro yn fwyd i fwy o’n rhywogaethau naturiol, ac felly mae colli un rhywogaeth yn dueddol o gael sgil-effaith o achosi colli mwy a mwy o fioamrywiaeth gynhenid. Credir bod rhywogaethau mewnlifol wedi achosi’r ail golled fwyaf o fioamrywiaeth ledled y byd, ar ôl dylanwad dyn. www.agf.gov www.introduced-species.co.uk/Plants |
Yng Nghymru, mae’r amodau tyfu yn llawer gwell ac nid oes unrhyw rywogaethau cysylltiedig i gyfyngu ar ei dwf. Felly, mae’r filiwn o hadau yn lledaenu’r planhigyn ar raddfa anhygoel ac mae’r rhywogaeth wedi ffynnu gymaint fel ei fod bellach yn bla mawr. Gall rhododendron ponticum gau allan rhywogaethau eraill o’i amgylch yn ffisegol drwy ryddhau cemegau i’r ddaear sy’n lladd planhigion eraill. Mae hyn yn creu pridd noeth i’w eginblanhigion fanteisio arno. Mae gorchudd y dail hefyd yn drwchus iawn, ac felly prin iawn o olau sy’n cyrraedd y llawr o dan y llwyni - eto, gan gau allan rywogaethau eraill. Mae rheoli rhododendron yn broses anodd sy’n galw am lawer iawn o ddyfalbarhad.
Y dull traddodiadol yw torri’r llwyni mawr a llosgi neu naddu darnau o’r deunydd a dorrir. Bydd y rhododendron yn aildyfu’r flwyddyn nesaf ac ar yr adeg hon mae angen chwistrellu llyswenwyn arnynt. Os ydych yn gadael i’r llwyni dyfu am yn rhy hir, mae eu dail yn datblygu haen drwchus o gwyr, sy’n rhwystro’r llyswenwyn rhag treiddio i’r planhigyn, ac sy’n eich taflu’n ôl i’r man cychwyn. Felly mae’n hanfodol bwysig dilyn unrhyw dorri â thriniaeth gemegol yn y tymor tyfu nesaf. Ystyrir bod y triniaethau dilynol yn fwyaf effeithiol tuag at ddiwedd y tymor tyfu (mis Medi) am fod y planhigion yn dechrau tynnu eu cronfeydd i lawr i’w gwreiddiau i’w storio drwy’r gaeaf. Golyga hyn yr eir â’r cemegau drwy’r planhigyn cyfan, a’u bod yn cael y cyfle i ladd pob rhan ohono. Efallai y bydd angen i chi chwistrellu bob tymor am hyd at 5 mlynedd. Bydd hyn yn caniatáu i unrhyw eginblanhigion sydd ynghwsg yn y pridd dyfu ar ôl tynnu’r planhigion rhiant mwy i ffwrdd ac i unrhyw aildyfiant o’r deunydd a dorrir, ymddangos. Mae angen chwistrellu’r holl aildyfiant er mwyn rheoli’r planhigyn hwn.
Bydd wastad ychydig o lwyni sy’n rhy fach i’w drilio a dylid trin y rhain fel aildyfiant a’u chwistrellu cyn gynted ag y bo modd. Cliciwch yma am fwy o fanylion am chwistrellu coes: www.forestry.gov.uk/newsrele.nsf/AllByUNID/196010F167115B7180256ED9004A090C Neu am ganllaw mwy cynhwysfawr ar ddefnyddio unrhyw gemegau mewn coedwigaeth, rhowch gynnig ar Lyfr Maes 8 y Comisiwn Coedwigaeth, The Use of Herbicides in the Forest Cliciwch yma am fwy o fanylion www.forestry.gov.uk/website/Publications.nsf/DocsByUnid/943FE0B42DAB91BC80256F9B005ADCF3). |
Hwn yw un o’n troseddwyr gwaethaf ond mae’n rhaid edmygu ei allu i oroesi. Cyflwynwyd Canclwm Siapan o Asia i Ewrop yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel planhigyn addurnol a phorthiant. Gall dyfu hyd at 2-3 metr o daldra. Mae ei goesau’n edrych ychydig fel bambw oren-frown. Gwelir y blodau gwyn hufennog o ganol haf hyd yn hwyr yn y tymor. Mae’r coesau marw yn para drwy’r gaeaf ac egin newydd yn tyfu ymysg y rhain y gwanwyn nesaf. Mae’r coesau marw a gwasarn y dail yn pydru’n araf iawn gan ffurfio haen organig ddofn sy’n rhwystro golau rhag cyrraedd y pridd gan atal hadau cynhenid rhag egino, neu hyd yn oed gyrraedd y pridd. Golyga hyn y gall y planhigion gau allan yr holl blanhigion eraill yn gyflym, gan oresgyn safle wrth iddo ledaenu. Mae’r prif ledaeniad yn digwydd drwy atgynhyrchiad llystyfol o risomau (y rhannau o dan y ddaear), a choesau ffres sy’n torri neu’n syrthio. Gall darnau mân iawn o unrhyw ran o’r planhigyn hwn ddechrau tyfu mewn pridd neu ddwr o fewn 6 diwrnod! Dyma pam y mae’r planhigyn wedi lledaenu cymaint ar hyd afonydd a nentydd, heolydd a rheilffyrdd. Wrth i ddarnau dorri i ffwrdd, neu gael eu taro gan geir a threnau, cânt eu cludo i ardaloedd newydd lle gallant ddechrau tyfu eto.
Gall rhisomau un planhigyn gyrraedd 7 metr ar ei draws a 2 fetr o ddyfnder. Mae bellach yn droseddwr byd-eang. Mae wedi bod mor llwyddiannus y tu allan i’w ystod naturiol (eto heb unrhyw rywogaethau cysylltiedig i’w reoli), fel bod y rhywogaeth bellach yn bodoli yn dros hanner y sgwariau 10 cilometr a ddefnyddir i fapio dosbarthiad planhigion yn Ynysoedd Prydain, a’r unig le nad yw’n bresennol yw Ynysoedd Erch. Mae’n bresennol ar draws llawer o dir mawr Ewrop o dde Ffrainc a Gogledd yr Eidal i Norwy, ac yn llawer o daleithiau yn UDA, o Galiffornia i Washington, a ledled Canada, ac mae adroddiadau yn cynyddu amdano fel chwynnyn niwsans yn Seland Newydd.
Y rheswm y mae’r planhigyn yn lledaenu drwy atgynhyrchiad llystyfol yma yw oherwydd bod angen planhigyn benyw a gwryw er mwyn cynhyrchu planhigion newydd drwy atgenhedliad rhywiol. Ond yn Ewrop gyfan, mae ymchwilwyr wedi profi mai dim ond planhigion benywaidd sydd gennym ym Mhrydain, ac yn rhannau o Ewrop ac o Ogledd America yr un clôn benywaidd yw hyd yn oed. Gan edrych ar gyfanswm ei chrynswth ar y raddfa hon, mae’n haeddu teitl y fenyw fwyaf yn y byd! Os oes arnoch eisiau helpu, cofiwch, cymaint yw bygythiad y planhigyn hwn i’n cefn gwlad, bod yn rhaid i unrhyw dorri neu driniaethau cemegol gael eu gwneud o dan drwydded oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd. Ond am ymagwedd fwy holistig, mae pobl yn bwyta’r planhigion ifanc (hyd at 6 modfedd) gan ei gymharu â rhiwbob o ran ei flas a’i briodweddau fel carthydd! Os oes arnoch eisiau ryseitiau am bastai Afal a Chanclwm, cawl Canclwm, sierbet ac ati, ewch i: www.wildmanstevebrill.com/Plants.Folder/Knotweed |
|
Ffawydd, Masarn, Llarwydd, rhywogaeth Sbriws, Cegid y Gorllewin a rhywogaeth pinwydd Nid yw’r un o’r rhywogaethau hyn yn hanu o Gymru’n wreiddiol. Mae dyn wedi dod â nhw dros y blynyddoedd i weddu i anghenion y cyfnod. Er enghraifft, mae ffawydd yn gynhenid i dde-ddwyrain Lloegr ac fe’i lledaenwyd ymhellach gan y Rhufeiniaid a ddefnyddiodd yr olew o’i hadau yn eu llusernau. Mae hefyd yn wydn iawn, a gall oroesi mewn amodau agored ac felly fe’i defnyddiwyd i greu lleiniau cysgodi a nodi ffiniau (a elwir yn plannu yn ôl polisi) ledled y wlad am ganrifoedd. Mae rhai’n credu bod ystod naturiol y ffawydden yn lledaenu i’r gogledd ac i’r gorllewin tuag at Gymru yn sgil cynhesu byd-eang, ac felly efallai y caiff ei derbyn yn rhywogaeth gynhenid erbyn canol y ganrif. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Roedd llarwydd, sbriws, pinwydd a Chegid y Gorllewin ymysg rhai o’r nifer enfawr o blanhigion a choed y daethpwyd â nhw i Brydain yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gasglwyr planhigion mawr y cyfnod. Ers hynny, fe’i defnyddiwyd mewn treialau coedwigaeth sy’n ceisio dod o hyd i rywogaethau sy’n tyfu’n gyflym ac yn cynhyrchu pren o ansawdd o dan amodau planhigfa. Y rhain oedd y rhywogaethau mwy llwyddiannus ac fe’i defnyddiwyd hyd heddiw mewn coedwigaeth fasnachol am eu priodoleddau tyfu. Ond dyma sydd yn eu gwneud yn fygythiad i’r coetiroedd cynhenid, yn gordyfu ac yn gor-gystadlu yn erbyn ein fflora cynhenid, sef system gynnal bywyd ein ffawna cynhenid.
Fel arfer, plannir y rhywogaethau conwydd uchod mewn blociau cymharol fawr. Mewn rhai achosion, cwympwyd hen goedwigoedd derw a phlannu conwydd yn eu lle. Mae dwy ffordd o adfer y safleoedd hyn yn goedwigoedd derw. Y dewis cyntaf yw cael gwared arnynt i gyd ar unwaith a naill ai plannu’r rhywogaethau cynhenid yn y safle neu aros i’r hadau gwympo o goed cynhenid cyfagos. Yr ail ddewis yw teneuo’r conwydd yn araf dros amser, gan ganolbwyntio’r ymdrech mewn mannau sydd â choed cynhenid wedi goroesi, gan greu bylchau ar gyfer eginblanhigion newydd. Mae’r ddau ddewis yn gweithio. Gall bod y dewis cyntaf yn rhatach ac yn haws ond gallai arwain at lai o goetir naturiol. Bydd y math hwn o goetir yn addas os oes arnoch eisiau defnyddio’r coetir ar gyfer tyfu pren o hyd. Mae’r ail ddewis yn fwy addas i safleoedd sensitif, yn enwedig y rhai â rhywogaeth yr Atlantig, am y byddai cadw amodau llaith y coetir yn gadael i’r planhigion hyn oroesi drwy’r newidiadau. |
|