%@LANGUAGE="VBSCRIPT"%>


Pam ddim mynd am dro i weld ein blaidd yn y Coed?
Mae’r blaidd yn dal lle arbennig yn hen straeon a chwedlau Cymru, a mae dyffryn Ffestiniog hefo’i chwedl blaidd arbennig ei hyn… Heddiw mae Coed y Bleiddiau yn enw i un o’r gorsafoedd ar linell rheilffordd Ffestiniog sy’n rhedeg o Blaenau Ffestiniog i Porthmadog, mae’n cael ei enw o fod y safle lle lladdwyd blaidd dythaf Cymru dros 500 mlynedd yn ol.
Mae’r cerflyn helyg o’r blaidd 7 troedfedd wedi’w gomisiynnu fel rhan o brosiect hefo ysgol leol ym Mlaenau Ffestiniog a nawr mae cyfle i fynd iw weld yn ei gartref newydd yng ngorsaf Coed y Bleiddiau. Dewiswch rhwng mynd iw weld hefo’r rheilffordd (mae trennau yn rhedeg pob diwrnod, am ragor o wybodaeth ewch neu ar droed i Reilffordd Ffestiniog ) neu ar droed.
Roedd Coed Derw Meirionnydd yn arfer bod yn gartref i sawl blaidd, ag nawr mae blaidd 7 troedfedd yng nghoed y Bleiddiau! Peidiwch a phoeni! Dim ond cerflyn wedi’w wneud o helyg yw’r un yma ond mae hen stori yn dweud bod blaidd dwythaf Cymru wedi cael ei ladd yng ngoed y bleiddiau dros 500 mlynedd yn ol!
